Y Bencampwriaeth: QPR 2 -1 Caerdydd

Paul Smyth Image copyright Rex Features
Image caption Y Gwyddel 20 oed, Paul Smyth, a sgoriodd y gôl fuddugol ar ei ymddangosiad cyntaf i QPR

Mae clwb Caerdydd wedi colli eu pedwaredd gêm o'r bron, ar ôl ildio dwy gôl i Queens Park Rangers yn yr ail-hanner.

Dyma ydy rhediad gwaetha'r tîm o'r brifddinas o dan reolaeth Neil Warnock.

Er i Joe Ralls roi'r Adar Gleision ar y blaen yn fuan wedi'r hanner, daeth y tîm cartref yn ôl gyda gôl i Matt Smith.

Ddeg munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Paul Smyth y gôl fuddugol ar ei ymddangosiad cynta i'r clwb.

Roedd Junior Hoilett yn ffyddiog ei fod wedi dod a'r sgôr yn gyfartal, ond dywedodd llimanwr ei fod yn camsefyll.

Mae Caerdydd yn parhau yn bedwerydd yn y Bencampwriaeth.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol