Adran Dau: Casnewydd 2-1 Caerwysg

Padraig Amond Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Padraig Amond a gafodd gôl gyntaf Casnewydd wrth iddyn nhw guro Caerwysg

Robbie Willmott sicrhaodd y fuddugolaeth i Gasnewydd yn erbyn Caerwysg gyda gôl o 30 llath.

Rhoddodd Padraig Amond y tîm cartref ar y blaen yn gynnar, ond daeth Caerwysg yn ôl i unioni'r sgôr ychydig ar ôl hanner amser, diolch i gôl Jason Stockley.

Daeth gôl fuddugol Casnewydd ar ôl 66 munud, gan sicrhau tri phwynt pwysig i'r tîm.

Mae Gwŷr Gwent yn 11fed yn y tabl, dri phwynt oddi ar y gemau ail-gyfle

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol