Anafu rheolwr siop: Yr heddlu'n chwilio am ddau berson

Adam Groves a Nicola Robson Image copyright Heddlu De Cymru

Mae Heddlu De Cymru'n awyddus i siarad gyda dau berson mewn cysylltiad â digwyddiad tu allan i archfarchnad ym Mae Caerdydd brynhawn Mawrth.

Cafodd rheolwr yr archfarchnad Morrisons anafiadau i'w ben wrth iddo geisio siarad gyda phobl oedd wedi cael eu hamau o ddwyn o'r siop.

Bu'n rhaid iddo dderbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a'i gadw yno dros nos.

Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn awyddus i siarad gyda dau berson ynglŷn â'r digwyddiad, ble cafodd wyth potel o wisgi eu cymryd o'r archfarchnad.

Mae'r llu yn apelio ar i unrhyw dystion, neu unrhyw un sy'n gwybod ble mae Adam Groves, 35 oed o Ferndale, a Nicola Robson, 39 oed o'r Barri, i gysylltu â nhw.

Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r siop ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol