'Mwy o aildroseddu' ers newid rheol llety cyn-garcharorion

Pobl ddigartref Image copyright Getty Images
Image caption Dydy troseddwyr ddim yn sicr o gael llety brys wrth iddyn nhw adael y carchar bellach

Mae newid i gyfraith tai yng Nghymru yn golygu bod mwy o gyn-garcharorion yn aildroseddu, yn ôl elusen.

Ers cyflwyno'r Ddeddf Tai yn 2014, dydy'r rheiny sy'n gadael carchar ddim o angenrheidrwydd yn gymwys am lety brys.

Yn ôl Shelter Cymru, mae anghenion cyn-droseddwyr yn cael eu hanwybyddu.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod asesiad o effaith y gyfraith yn cael ei gynnal.

'Profiad gwaethaf fy mywyd'

Image caption Mae Mark Smallman wedi cael amser caled ers gadael carchar

Gadawodd Mark Smallman o Wrecsam y carchar saith wythnos yn ôl.

Mae wedi bod yn cysgu ar y stryd ers hynny - "profiad gwaethaf" ei fywyd, meddai.

Mae Mr Smallman wedi bod yn gaeth i gyffuriau am y rhan fwyaf o'i oes, ac wedi treulio dwy flynedd a hanner dan glo am gyflenwi cyffuriau dosbarth A.

Dywedodd ei fod yn teimlo bod ganddo gefnogaeth yn y carchar, ond nid felly unwaith gafodd ei ryddhau. Mae'n dweud fod peidio troseddu yn anodd heb gefnogaeth a bod pethau'n "mynd i waethygu cyn gwella".

Ers y newidiadau deddfwriaethol, dydy pobl sy'n gadael carchar ddim yn cael blaenoriaeth yn y broses o roi llety brys - oni bai eu bod yn cael eu hystyried yn fregus.

Yn ôl Ruth Malecic, sy'n gweithio mewn carchardai i Shelter Cymru, dydy "awdurdodau lleol ddim yn derbyn" bod llawer o gyn-garcharorion yn fregus, er gwaethaf "tystiolaeth feddygol gan feddygon teulu a'r gwasanaeth carchardai".

"Mae'n anodd pan maen nhw'n dod allan, achos dydyn nhw ddim eisiau rhoi llety iddyn nhw," meddai.

Ychwanegodd: "O leiaf, [yn y gorffennol] roedd ganddyn nhw do uwch eu pennau ac os oedden nhw eisiau, fe allen nhw ddechrau mynd i'r afael â'u problemau.

"Nawr maen nhw jyst ar y stryd, yn mynd yn syth at ddefnyddio cyffuriau ac aildroseddu."

Image caption Mae Audrey Barnett yn reolwr cymunedol gydag elusen Emmaus yn y de

Yn ôl elusen arall sy'n helpu pobl ddigartref yn y de, mae cynnydd yn nifer y cyn-droseddwyr sydd ar y stryd ac angen cefnogaeth.

"Mae llawer o waith yn cael ei wneud ond mae llawer iawn o bobl yn gadael y carchar heb lety," meddai Audrey Barnett o Brosiect Emmaus.

Asesiad o'r polisi

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai "awdurdodau lleol yn derbyn £2.36m" i roi cefnogaeth llety i'r rheiny sydd â hanes o droseddu eleni.

Maen nhw'n dweud hefyd bod "Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd i Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Sefydliadau Diogel" ar waith.

Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnal asesiad parhaus o'r polisi hwnnw a'r newid i'r ddeddf, ac mae disgwyl canlyniadau'r asesiad yn gynnar yn 2018.