Pro14: Gweilch 29-28 Gleision

Rhys Webb Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Rhys Webb ddwywaith i helpu'r Gweilch tuag at y fuddugoliaeth

Maswr Cymru, Dan Biggar wnaeth serennu wrth arwain y Gweilch i fuddugoliaeth pwynt bonws mewn gêm agos yn erbyn y Gleision yn Stadiwm Liberty.

Y Gleision sgoriodd cais cynta'r gêm trwy Nick Williams, cyn i'r Gweilch daro 'nôl yn sydyn gyda rhyngipiad gan Jeff Hassler.

Ychwanegodd Rhys Webb gais yn dilyn gwaith da gan Dan Biggar i roi'r Gweilch ar y blaen o 17-14 ar yr egwyl.

Aeth y tîm cartref ymhellach ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner, gyda Webb yn croesi am gais arall cyn i Justin Tipuric sicrhau'r pwynt bonws.

Fe darodd y Gleision yn ôl gyda cheisiau gan Owen Lane a Garyn Smith i'w dod o fewn pwynt i'r Gweilch gyda phum munud yn weddill.

Ond llwyddodd y tîm cartref i gadw eu gafael ar y fuddugoliaeth, sy'n eu gweld yn codi oddi ar waelod Adran A yn y Pro14.