Beirniadu tollau fel 'trethu Alun Cairns'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Beirniadu parhad tollau fel 'treth Alun Cairns'

8 Ionawr 2018 Diweddarwyd 13:06 GMT

Mae AS Gorllewin Casnewydd yn dweud y dylai'r tollau ar bontydd Hafren ddod i ben yn syth.

Mae cost croesi o Loegr i Gymru wedi gostwng wedi i'r pontydd ddychwelyd i ddwylo cyhoeddus, gydag addewid y bydd y tollau yn cael eu diddymu erbyn diwedd y flwyddyn.

Ond yn ôl Paul Flynn, dylai hynny ddigwydd nawr ac mae'n dweud mai "cash cow" i Lywodraeth y DU ydy'r pontydd, gyda'r tollau gyfystyr â "threth Alun Cairns".