Beirnidaeth o benodiad prif weithredwr newydd CBAC
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Derec Stockley: Penodiad CBAC yn 'destun cywilydd'

11 Ionawr 2018 Diweddarwyd 10:44 GMT

Mae un o gyn-swyddogion bwrdd arholi CBAC, Derec Stockley, wedi disgrifio penodiad prif weithredwr newydd y corff fel "testun cywilydd".

Ddydd Mercher dywedodd CBAC fod gan Roderic Gillespie "ddealltwriaeth gadarn o ofynion y sector cyfrwng Cymraeg", er nad yw'n siarad yr iaith ei hun.