Carchar moethus yr Almaenwyr yng ngogledd Cymru

Y gwinoedd a'r sigars gorau. Dyw e ddim yn eich taro chi fel disgrifiad o wersyll rhyfel rhywsut. Ond dyna'n union oedd ar gael i garcharorion Almaenig mewn plasty yng ngogledd Cymru adeg y Rhyfel Mawr.

Image caption Uwch swyddogion Almaenig yn pasio'r amser ym mhlasty Dyffryn Aled yn ystod y Rhyfel Mawr

Cafodd plasty Dyffryn Aled ym Mryn Rhyd-yr-Arian ger Llansannan ei godi yn 1797 gan Diana Wynne-Yorke a bu'r teulu Wynne-York yn byw yno hyd at ddechrau'r 20fed ganrif. Roedd yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty seiciatryddol tan iddo gael ei droi yn garchar rhyfel.

Chwarae tenis gyda Churchill

Er eu bod yn gaeth, roedd bywyd yn Nyffryn Aled yn gyfforddus iawn i'r uchel swyddogion Almaenig oedd yn cael eu cadw yno. Yn eu plith roedd mab Albert von Tirpitz, un o benaethiaid llynges yr Almaen. Yn ystod yr haf cyn i'r rhyfel ddechrau roedd Wolf von Tipitz wedi chwarae tenis a chael cinio gyda Winston Churchill yng nghlwb Queens ger Llundain. Y gwleidydd enwog gafodd y dasg o roi gwybod i deulu Wolf ei fod yn fyw ac yn iach ond yn cael ei gadw fel carcharor rhyfel.

Mewn cyfweliad gyda'r Daily Mail yn ystod y cyfnod roedd e'n Nyffryn Aled cyfeiriodd Wolf at y bywyd hamddenol oedd yno:

"O gerdded o gwmpas y gwersyll mi sylwch fod pob dim yn cael ei wneud er mwyn ein moethusrwydd a'n hapusrwydd. Rwy'n hoff iawn o ganu'r feiolin, a'r peth cyntaf bron wnes i wedi cyrraedd oedd prynu feiolin. Y caledi mwyaf ry'n ni'n wynebu yw sut i basio'r amser."

Image caption Y Llyngesydd Albert von Tirpitz, un o ffigyrau mwyaf dylanwadol y Rhyfel Byd Cyntaf

Dianc, ond...

Ychydig flynyddoedd yn ôl bu Jane Williams yn hel atgofion am y safle gyda BBC Cymru.

"Roedden nhw'n cario'r carcharorion o Fae Cinmel i Ddyffryn Aled. Clywais fy nhad yn d'eud ei fod yn eu gweld nhw yn cael eu cario allan yno ar gefn lori fach.

"Dwi'n cofio'r plasty pan oedden ni'n blant ysgol. Roedd o'n wag, ond fydden ni'n chware lot yno o'i gwmpas a dwi'n cofio gweld yr hen dwnnel o dan y ffens."

Er gwaetha'r moethusrwydd roedd rhai o'r milwyr â'u bryd ar ddianc.

"Mi ddaru rhai o'r milwyr durio eu ffordd allan. Mae'n rhyfeddol fel roedden nhw wedi trefnu'r peth. Roedd 'na submarine yn aros amdanyn nhw yn Llandudno", meddai Jane Williams.

"Wedi cyrraedd Llandudno roedden nhw i fod i gael eu pigo i fyny wrth y Gogarth ond mi aethon nhw i'r lle anghywir ac aros yn y bae anghywir wrth y Gogarth Fach. Ac felly y cawson nhw eu dal."

Image caption Plasty Dyffryn Aled adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

'Rule Britannia'

Mae'r hanesydd lleol Berwyn Evans o Lansannan hefyd yn ymddiddori yn hanesion y gwersyll rhyfel yn Nyffryn Aled:

"Pob wythnos byddai wagen yn dod o Ddinbych i Lansannan gyda nwyddau ar gyfer y tair tafarn oedd yno ar y pryd.

"Oherwydd cyflwr gwael y ffordd fawr, roedd gan yrrwr y wagen ganiatâd arbennig i groesi tir y plasty.

"Rŵan, roedd merched lleol yn chwarae yn yr ardal pob haf, a phan fyddai gyrrwr y wagen yn stopio i agor giât y plasty, byddai'r merched 'ma'n sgwrsio efo fo ac yn gofyn am lifft lawr i Lansannan ag yn ôl.

"Yn ôl y sôn, byddai'r gyrrwr yn cytuno ar yr amod fod y merched yn canu Rule Britannia nerth eu pennau wrth basio'r plasty."

Ar ddiwedd y rhyfel cafodd y plasty ei ddymchwel gan ddod â phennod hynod i ben yn hanes Bryn Rhyd-yr-Arian.

Image caption Erbyn heddiw, mae'r hen blasty wedi'i ddymchwel

Pynciau Cysylltiedig