Cwpan Pencampwyr Ewrop: Caerfaddon 17-35 Scarlets

Tadhg Beirn Image copyright Getty Images
Image caption Tadhg Beirn sgoriodd gais cyntaf Y Scarlets yn erbyn Caerfaddon

Mewn gêm allweddol yng nghwpan pencampwyr Ewrop, ennill oedd hanes y Scarlets oddi cartref yn erbyn Caerfaddon nos Wener.

Fe ddechreuodd y Scarlets ar dân gyda chais gyntaf y gêm yn dod gan Tadhg Beirn ar ôl symudiad ddechreuodd yn nwfn yn hanner eu hunain.

Er i John Barclay gael ei anfon i'r gell gosb wedi 21 munud fe sgoriodd y Scarlets gais arall ychydig funudau yn ddiweddarach, gyda Paul Asquith yn croesi yn y gornel.

Hadleigh Parkes sgoriodd trydedd cais yr ymwelwyr wedi 30 munud a diolch i gic gosb lwyddiannus gan Dan Jones roedd y Scarlets 22 - 0 ar y blaen ar yr hanner.

Ychydig funudau fewn i'r ail hanner roedd y Scarlets wedi sicrhau pwynt bonws, gyda Scott Williams yn tirio wedi cic glyfar gan Rhys Patchell.

Fe wnaeth Matt Banahan groesi am gais i Gaerfaddon wedi 58 munud, ond roedd hi'n rhy hwyr i'r tîm cartref frwydro'n ôl.

Llwyddodd Zach Mercer sgorio cais arall i'r tim cartref gyda saith munud yn weddill, ond fe giciodd Jones i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i'r Scarlets.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod y Scarlets bellach ar frig pŵl pump. Mae un gêm yn weddill gyda dim ond y tîm ar y brig yn mynd ymlaen i'r chwarteri.