Llu Awyr yn cydnabod rôl Lloyd George yn Llanystumdwy

Cafodd gardd goffa i'r Llu Awyr
Image caption Cafodd gardd goffa i'r Llu Awyr ei hagor yn Llanystumdwy

Roedd seremoni dydd Gwener yn Llanystumdwy - y pentre' lle cafodd David Lloyd George ei fagu - i ddathlu ei gyfraniad i'r Llu Awyr.

Roedd y digwyddiad yn Amgueddfa Lloyd George yn nodi 100 mlynedd ers iddo - fel prif weinidog - sefydlu'r llu annibynnol cyntaf yn 1918.

Fe wnaeth awyrennau o'r RAF hedfan uwchben y seremoni, ac fe gafodd gardd goffa ei hagor a chofiant ei gyflwyno.

Mae arddangosfeydd yn rhan o'r dathliadau hefyd.

Dywedodd pennaeth y Llu Awyr, Syr Stephen Hiller, fod Lloyd George yn llawn haeddu cael ei gydnabod.

Image copyright Getty Images
Image caption David Lloyd George oedd y prif weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Lloyd George yw'r unig Gymro i ddal swydd y prif weinidog, ac roedd ymhlith y gwleidyddion cyntaf i roi ystyriaeth i bwysigrwydd y llu awyr.

Roedd yn aelod seneddol dros etholaeth Caernarfon o 1890 tan 1945 ac yn brif weinidog rhwng 1917 a 1922.

Erbyn 1917 roedd yn gweld awyrennau rhyfel yn fodd o roi diwedd ar y gyflafan yn y ffosydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd awyrennau rhyfel dan reolaeth y Fyddin tan 1917

Dywedodd Syr Stephen Hillier, oedd yn bresennol yn y seremoni: "Roedd Lloyd George yn arweinydd rhyfel gwych, ac fe wnaeth gyflawni nifer o bethau yn ystod ei yrfa wleidyddol.

"Mae ei rôl wrth sefydlu'r RAF, awyrlu annibynnol cyntaf y byd, yn dystiolaeth bellach o'r hyn a gyflawnodd ac mae o'n haeddu cael ei gydnabod."

Dywedodd ŵyr Lloyd George, David Lloyd Carey-Evans, ei fod o'n falch fod rôl ei daid yn cael ei ddathlu.

"Roedd y fyddin wedi mynnu y byddai'r awyrlu yn dod o dan ei reolaeth, ond roedd fy nhaid yn teimlo yn gryf nad dyma'r ffordd orau ymlaen ac roedd yn benderfynol y byddai'n gallu datblygu yn annibynnol yn hytrach na chael ei arwain gan y fyddin."

Image copyright John Firth/Geograph
Image caption Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Amgueddfa Lloyd George

Pynciau Cysylltiedig