'Rhowch wybod am anifeiliaid marw ar y ffyrdd'

Cath Image copyright Susie Edwards
Image caption Mae ymgyrchwyr yn galw am wneud hi'n orfodol i gofnodi achosion o ladd cathod ar y ffyrdd, fel sy'n digwydd yn achos cŵn.

Mae ymchwilwyr a chadwriaethwyr yn galw ar y cyhoedd i roi gwybod i'r awdurdodau bob tro maen nhw'n dod ar draws anifeiliaid marw ar y ffyrdd.

Yn ôl gwybodaeth newydd gan Lywodraeth Cymru, fe gafodd 444 o anifeiliaid marw eu darganfod ar draffyrdd a chefnffyrdd Cymru yn unig yn y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd ond yn cyfateb i 9.8% o ffyrdd Cymru.

Mae RSPCA Cymru wedi cefnogi trefn "orfodol" i gasglu anifeiliaid anwes marw o'r ffyrdd.

Yn ôl y grŵp ymchwil Project Splatter ym Mhrifysgol Caerdydd, mae data arolygon yn dangos bod 827 o anifeiliaid marw wedi eu cofnodi ar holl ffyrdd Cymru yn 2016 a 747 yn 2017.

Ers 2013, maen nhw wedi derbyn manylion 3,735 o achosion yn ymwneud ag o leiaf 62 o rywogaethau gwahanol, yn bennaf gan aelodau'r cyhoedd trwy'r cyfryngau cymdeithasol ac apiau.

Image copyright Paul Hobson
Image caption Yn ôl Project Splatter, yr anifeiliaid sy'n cael eu lladd gan amlaf yw draenogod, cwningod, ffesantiaid, moch daear a llwynogod.

Ond yn ôl Amy Schwartz, un o ymchwilwyr Project Splatter, mae pobl "yn fwy tebygol i roi gwybod am rywogaethau llai anarferol - anifeiliaid mwy o ran maint, yn aml.

"Mae pobl yn gweld colomennod marw o hyd heb feddwl am roi gwybod amdano, ond mae'n bwysig. Mae'n rhan o'r darlun ehangach.

"Ble bynnag mae rhai anifeiliaid yn cael eu taro, mae'n tueddu i effeithio ar rywogaethau eraill hefyd."

Ychwanegodd Dr Fred Slater, cymrawd ymchwil yn ysgol biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Mae amcangyfrifon marwolaethau'r rhan fwyaf o anifeiliaid llai yn rhy isel o lawer, oherwydd cyn dim o dro mae creaduriaid eraill yn cael gwared arnyn nhw... creaduriaid all gael eu lladd eu hunain wrth wneud."

Beth ddylid ei wneud ar âl taro neu weld anifail ar y ffordd

  • Rhoi gwybod i'r cyngor lleol am anifeiliaid marw mewn ardaloedd cyhoeddus a ffyrdd er mwyn iddyn nhw eu symud.
  • Ffonio'r RSPCA ar 0300 1234 999 os yw'r anifail yn dal yn fyw ac wedi'i anafu.
  • Mae'n rhaid stopio a chysylltu gyda'r heddlu yn achos damwain ar ôl taro cŵn, ceffylau, gwartheg, moch, geifr, defaid a mulod.
  • Cysylltu â grwpiau cadwriaethol ynghylch unrhyw anifeiliaid eraill.

Mae RSPCA Cymru hefyd wedi galw am drefn newydd i sichrau bod mwy o berchnogion anifeiliaid anwes yn cael gwybod os ydyn nhw'n cael eu lladd ar y ffyrdd.

Dan Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1998, does dim gofyn i yrwyr gysylltu â'r heddlu ar ôl taro anifeiliaid gwyllt neu gathod.

Dywedodd llefarydd RSPCA Cymru: "Mae awdurdodau lleol sydd â pholisi i sganio cŵn marw am feicrosglodion yn cael eu cydnabod am ymarfer da.

"Yn hyn o beth rydym yn cefnogi casglu gorfodol, adnabod anifeiliaid anwes, a hysbysu perchnogion pan maen nhw'n cael eu lladd ar briffyrdd."

'Cefais fy siomi gan bawb'

Fe gollodd Susie Edwards ei chath, Angel, bedair blynedd yn ôl yng Nghastell-nedd, gan amau i'r creadur farw mewn damwain ffordd na chafodd ei hysbysu i'r awdurdodau.

"Wnes i dreulio diwrnodau yn chwilio amdani, ond yna fe ddywedodd cymydog eu bod wedi gweld cath farw tu allan i'r tŷ am 11 y nos, a'r bore trannoeth roedd wedi mynd."

"Fe ffoniais y cyngor eto a dweud .... 'mae rhywun wedi symud y gath, mae rhywun wedi gwneud rhywbeth gyda'r corff'.

"Chefais i ddim ateb erioed. Doedd y cymydog ddim yn ei weld yn broblem, na'r sawl a gododd y gath, na'r cyngor. Fel perchennog anifail anwes, cefais fy siomi gan bawb."

Image copyright Susie Edwards
Image caption Fe chwiliodd Susie Edwards am ddyddiau am ei chath goll

Mae mudiad The People's Trust for Endangered Species yn cynnal arolwg bob haf i gael gwell syniad o effaith marwolaethau ffyrdd ar boblogaethau anifeiliaid.

Dywedodd David Wembridge o'r mudiad: "Does neb yn hoffi gweld anifeiliaid marw ar ymyl ffordd, ond trwy eu cyfri rydym yn casglu digon o wybodaeth i gymharu tueddiadau poblogaeth o flwyddyn i flwyddyn, ac adnabod lle mae angen canolbwyntio'n ymdrechion i'w gwarchod."

Codi ymwybyddiaeth

Yn ôl Dominic Dyer, prif weithredwr yr Ymddiriedolaeth Moch Daear, mae cofnodi damweiniau yn helpu grwpiau cadwraethol" i liniaru cyn gymaint o fygythiadau â phosib a chodi ymwybyddiaeth" trwy gamau fel arwyddion, twmpathau ffordd a thwneli anifeiliaid.

Dywedodd Ms Schwartz bod newidiadau o'r fath yn cael eu hwyluso oherwydd gwybodaeth gan y cyhoedd - yn yr un modd, fe gafodd silff ei osod yng Ngwent gan Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd.

"Oherwydd i bobl roi gwybod am ddyfrgwn marw, fe lwyddon nhw i ddarbwyllo pobl eraill i ddarparu tystiolaeth, i weithredu."

Pwysleisiodd hefyd ei bod hi'n bwysig i yrwyr beidio â goryrru.

"Mae astudiaethau wedi dangos bod anifeiliaid yn dysgu faint o amser sydd ganddyn nhw i redeg i ffwrdd o ffyrdd cyfarwydd, sydd â goblygiadau os yw pobl yn torri'r cyfyngiad cyflymder."

Pynciau Cysylltiedig