Newcastle 1-1 Abertawe

Abertawe Image copyright Reuters
Image caption Y tîm yn llongyfarch Jordan Ayew am fynd â'r Elyrch ar y blaen

Mae Abertawe'n parhau ar waelod tabl Uwchgynghrair Lloegr, wedi gêm gyfartal yn erbyn Newcastle.

Di-sgôr oedd hi ar ddiwedd yr hanner cyntaf ym mharc St James, gyda'r dyfarnwr yn gwadu cic gosb i'r Elyrch er ei bod hi'n ymddangos fod Mohamed Diame wedi llawio'r bêl.

Roedd 'na lygedyn o obaith am driphwynt i'r Elyrch wrth i Jordan Ayew benio'r bêl i gefn y rhwyd wedi 60 munud, gan fynd â'r ymwelwyr ar y blaen.

Image copyright Reuters
Image caption Joselu'n edrych tua'r nen ar ôl unioni'r sgôr

Ond wyth munud yn ddiweddarach daeth Newcastle â'r gêm yn gyfartal wrth i Joselu sgorio, a hynny bedair munud yn unig wedi iddo ddod ar y cae.

Er gwaetha ennill pwynt, mae Abertawe'n parhau ar waelod y tabl yn Uwchgynghrair Lloegr, gydag 17 pwynt.

Pynciau Cysylltiedig