Grimsby 1-2 Casnewydd

pel-droed

Mae Casnewydd o fewn dau bwynt i gemau ail-chwarae'r Ail Adran, wrth guro Grimsby ar eu tomen eu hunain.

Yr ymwelwyr sgoriodd gyntaf - ergyd wych gan Robbie Wilmott wedi 19 munud, cyn i Frank Nouble ddyblu'r sgôr yn yr ail hanner.

Fe ddaeth Grimsby yn ôl i mewn i'r gêm gyda gôl gan Jamille Matt, ond fe ddaeth ei ddathliadau e i ben pan gafodd gerdyn coch yn y funud olaf.

Pynciau Cysylltiedig