Arestio dyn ar amheuaeth o yfed a gyrru wedi gwrthdrawiad

Gwrthdrawiad Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd William yn Pentre

Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng sawl cerbyd yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd William yn Pentre tua 19:00 ddydd Gwener, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng o leiaf dri cherbyd.

Cafodd un dyn ei gludo i'r ysbyty â mân anafiadau.

Cafodd ei arestio'n ddiweddarach ar amheuaeth o yfed a gyrru.

Pynciau Cysylltiedig