Apêl wedi gwrthdrawiad difrifol yng Nghastell-nedd

gwrthdrawiad Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Bant yr Heol yng Nghastell-nedd nos Sadwrn

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i wrthdrawiad difrifol yng Nghastell-nedd nos Sadwrn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Bant yr Heol tua 23:20.

Cafodd dau o bobl eu hanafu, ac mae un yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am gar Peugeot 206 du oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw ar 101, a dyfynu'r cyfeirnod 1800015644.