Cymry adnabyddus yn galw am ddatganoli darlledu

logo S4C yn yr Eisteddfod

Mae dros ddeugain o Gymry adnabyddus gan gynnwys actorion, cantorion a phrifeirdd wedi llofnodi llythyr agored at y Prif Weinidog Theresa May yn galw am ddatganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru.

Daw'r newyddion ar drothwy cyhoeddi adroddiad adolygiad annibynnol o S4C.

Mae disgwyl i'r adroddiad ystyried, ymysg materion eraill, ddatganoli cyfrifoldeb dros y Sianel.

Mae llefarydd ar ran adran ddiwylliant San Steffan wedi cadarnhau eu bod nhw'n ystyried casgliadau'r adolygiad ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd hefyd bod "darlledwyr yn gwneud cyfraniad anferth i dirwedd economaidd a diwylliannol y DU a'i bod ond yn iawn bod llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gyfrifol am y sector".

'Angen mwy o gyfleoedd'

Mae'r Cymry adnabyddus, sy'n cynnwys yr actores Sharon Morgan, Y Prifeirdd Christine James, Osian Rhys Jones a T James Jones, cyn-bennaeth gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru Yr Athro Thomas Watkins, cyn-gadeirydd Ofcom Cymru Ian Clarke a'r gantores Gwenno Saunders, yn dweud yn y llythyr:

"Credwn fod angen llawer iawn mwy o gyfleoedd arnom fel cenedl ac fel pobl i siarad â'n gilydd, i gynnal trafodaethau ac i ddadlau: trafodaethau cynhwysol o ran holl amrywiaeth y profiad Cymreig sydd wedi'u gosod yng nghyd-destun ein hanes fel cenedl.

"Ar hyn o bryd, mae'r cyfleoedd hynny yn hynod gyfyngedig oherwydd bod pwerau darlledu wedi'u cadw'n ôl yn San Steffan.

"Mae'r system bresennol yn methu ar hyn o bryd ac yn or-ddibynnol ar un darparwr yn unig. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn iach i'n democratiaeth leol, i ddemocratiaeth Cymru nac i ffyniant y Gymraeg."

Image caption Nid Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddarlledu ar hyn o bryd, ond Llywodraeth y DU

Mae'r Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon o'r farn fod pob gwlad yn cyfrannu adnoddau yn sicrhau mwy o fuddsoddiad mewn rhaglenni - boed hwy yn cael eu cynhyrchu yn Yr Alban, Lloegr, Cymru neu Ogledd Iwerddon.

Mae llythyr y Cymry enwog yn cyfeirio hefyd at ostyngiad yng nghyllideb S4C ac at y diffyg gwasanaeth Cymraeg ar radio masnachol:

"Gresynwn at y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf, ynghyd â thoriadau o 36% i gyllideb S4C ers 2010 a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol.

"Yn ogystal, pryderwn am y cwymp yn y ddarpariaethleol a Chymraeg ar radio masnachol ynghyd â'r ddarpariaeth fregus o isel o gynnwys lleol a Chymraeg ar orsafoedd teledu lleol."

Mae'r llythyr yn ogystal yn cyfeirio at argymhellion Comisiwn Silk yn 2013 gan nodi'n benodol yr argymhelliad mai Llywodraeth Cymru ac nid Llywodraeth y DU a ddylai fod yn gyfrifol am y cyllid sy'n cael ei dalu yn uniongyrchol i S4C o goffrau San Steffan.

Pynciau Cysylltiedig