Yswiriant rhatach i 10,000 o dai gyda risg llifogydd

Rhostryfan Image copyright Bedwyr Williams
Image caption Cafodd sawl tŷ yn Rhostryfan eu difrodi gan ddŵr ar ôl oriau o law trwm yn 2012

Mae bron i 10,000 o gartrefi yng Nghymru wedi eu hyswirio dan gynllun newydd sy'n ceisio lleihau'r gost i bobl sy'n byw lle mae risg o lifogydd.

Cafodd Flood Re ei sefydlu yn 2016, menter ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU ac yswirwyr.

Mae'n eu galluogi nhw i arallgyfeirio'r elfen o bolisi yswiriant sy'n ymwneud a llifogydd, gan olygu bod perchnogion cartref yn talu llai.

Ond wrth ymweld â Chaerdydd, fe fynnodd pennaeth y cynllun bod angen gwneud mwy i ledu'r neges i rai cymunedau.

Sut mae'n gweithio?

Cyn Flood Re, roedd miloedd o bobl yn talu symiau ychwanegol sylweddol i sicrhau bod eu cartrefi a'u heiddo wedi'i yswirio.

Y gred ydy y gallai 350,000 o dai ar draws y DU elwa o'r cynllun; hyd yma mae 9,680 o bolisïau wedi'u cymeradwyo yng Nghymru.

Mae treth yn cael ei dalu gan bob cwmni yswiriant, a hwnnw'n ffurfio cronfa sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio fel cymhorthdal i'r sawl sy'n byw lle mae'r perygl o lifogydd yn uchel.

Image caption Cafodd cannoedd o bobl eu heffeithio gan lifogydd Y Rhyl yn 2013

Yn y pendraw mae'r gost yn disgyn ar berchnogion tai mewn ardaloedd eraill lle nad yw llifogydd yn broblem, gan eu bod nhw'n wynebu £10.50 yn fwy o gost ar eu polisïau yswiriant cartref ar gyfartaledd.

Mae cefnogwyr yn dweud bod y cynllun wedi golygu bod y sawl oedd yn wynebu costau aruthrol, neu oedd yn methu cael yswiriant o gwbl, bellach yn derbyn polisïau fforddiadwy.

Ond mae'r sawl sy'n feirniadol yn honni nad yw'n cynnig gwerth am arian, a byddai'n well blaenoriaethu ymdrechion i atal llifogydd yn y lle cyntaf.

'Torcalonnus'

Dywedodd Andy Bord, Prif Weithredwr Flood Re, wrth BBC Cymru bod rhai yswirwyr yn fwy parod nag eraill i gyfeirio cwsmeriaid at bolisïau oedd wedi'u cefnogi gan y cynllun.

Mae wedi cwrdd â gweinidog amgylchedd Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn yr wythnos hon i drafod sut mae "lledu'r neges" i gymunedau sydd wedi'u heffeithio.

Ond honnodd fod y cynllun yn effeithio prisiau yn barod, gyda "nifer llawer mwy" o berchnogion tai yn cael yswiriant fforddiadwy nac ond y rhai sy'n cael eu cyfeirio at Flood Re.

"Y neges yw gwnewch eich gwaith cartref, gan fod 'na brisiau cystadleuol iawn ar gael."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Glenda Jones yn cofio'n glir y diwrnod y digwyddodd y llifogydd

Un cwpwl sydd eto i elwa o'r cynllun yw Melfyn a Glenda Jones. Cafodd eu cartref yn Rhostryfan, Gwynedd ei effeithio yn 2012.

Bu'n rhaid iddyn nhw symud oddi yno am chwe mis, wrth i loriau a charpedi newydd gael eu gosod a'r waliau gael eu hail-blastro.

Dywedodd Mr Jones: "O'dd o yn dod mewn trwy'r french doors, trwy drws y cefn. O'dd rhaid i ni agor y drws ffrynt i gael o i fynd allan.

"Mi ddigwyddodd o mewn ychydig iawn o funudau, o'dd gennon ni ddim gobaith."

"Gweld y tŷ o dan ddŵr, oedd o yn dorcalonnus," ychwanegodd Mrs Jones, gan ddweud ei bod hi'n ofni y gallai ddigwydd eto.

Byddai'n rhaid iddyn nhw dalu'r £5,000 cyntaf o unrhyw gais i'w hyswirwyr petai'n digwydd eto, swm y mae'r ddau yn ei weld fel un annheg.

Ond petawn nhw wedi'u gwarchod gan bolisi Flood Re, byddai'r gost ond yn £250.

"Dyla' bod y cwmni insurance… yn sbïo mewn i betha felly a gweld drost eu hunain beth sydd wedi digwydd…" meddai Mr Jones

"Fysa ni yn licio y broblam i gael ei solvio, unwaith ac am byth."

Pynciau Cysylltiedig