Cwpan Nathaniel MG: Met Caerdydd 0-1 Y Seintiau Newydd

pel-droed

Y Seintiau Newydd yw enillwyr tlws cyntaf y tymor yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl ennill o 1-0 yn erbyn Met Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG.

Roedd Met Caerdydd yn dathlu ar ôl i Dan Spencer roi'r bêl yng nghefn y rhwyd wedi 33 munud, ond roedd yn camsefyll.

Fe wnaeth y Seintiau Newydd reoli'r meddiant drwy gydol yr hanner cyntaf er i'r ddau dîm fynd fewn i'r ystafell newid gyda'r gêm yn ddi-sgor.

Bu bron i'r Seintiau fynd ar y blaen ar ôl 54 munud ar ôl i Aeron Edwards roi'r bêl dros y traws o dair llath.

Yn debyg i'r hanner cyntaf, roedd y Seintiau yn llwyr reoli'r gêm, ac fe darodd Alex Darlington y postyn cyn i Jamie Mullan sgorio unig gôl y gêm gydag ergyd o chwe llath wedi 63 munud i ennill y gêm.

Dyma'r pedwerydd tymor yn olynol i'r tlws deithio'n ôl i Groesoswallt yn nwylo'r Seintiau Newydd.