Rhybudd melyn am eira a rhew i rannau o Gymru

Eira Image copyright Getty Images/ Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau rhybudd melyn (byddwch yn barod) am eira ar gyfer rhannau o Gymru.

Gallai 2.3 modfedd o eira ddisgyn ar dir uwch na 200m gyda 1.1 modfedd ar dir isel.

Mae'r rhybudd sydd hefyd yn cynnwys rhew, yn effeithio Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Powys a Sir Y Fflint ac mewn grym tan 18:00 ddydd Sul.

Dywedodd swyddog o'r Swyddfa Dywydd: "mi fydd cyfanswm o eira ffres yn amrywio ar hyd ardal y rhybudd" ond mae ansicrwydd ynglŷn â faint neith ddisgyn.