Hyfforddwr caiacio o Gaerdydd ar goll yn Ecwador

Adam Vaughan Image copyright Facebook
Image caption Does neb wedi gweld Adam Vaughan ers i grŵp o gaiacwyr fynd i drafferthion mewn llifogydd yn Ecwador ddydd Sadwrn

Mae hyfforddwr caiacio o Gaerdydd ar goll wedi llifogydd sydyn yn Ecwador.

Bu farw dau ddyn o Iwerddon yn dilyn y digwyddiad ar afon Abanico ddydd Sadwrn, a dydy Adam Vaughan, 22 oed, ddim wedi ei weld ers hynny.

Cafodd dau arall oedd yn rhan o'r un grŵp - un o'r UDA ac un o Ecwador - eu hachub.

Mae Mr Vaughan yn gyn-fyfyriwr Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn hyfforddwr yng nghanolfan Dŵr Gwyn Caerdydd.

'Athro ysbrydoledig'

Roedd yn is-lywydd ar glwb caiacio'r brifysgol yn ystod ei gyfnod yn y coleg, ac fe gafodd ei ddisgrifio gan lefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Caerdydd fel "athro ysbrydoledig".

Mae cyrff y ddau Wyddel - David Higgins, 26 oed o Kerry, ac Alex McGourty, 19 oed o Sligo - wedi eu canfod.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym yn cynorthwyo teulu dyn o Brydain sydd ar goll yn Ecwador, ac rydym mewn cysylltiad â'r awdurdodau yno."

Pynciau Cysylltiedig