Adran Dau: Casnewydd 1-1 Morecambe

Josh Sheehan, Casnewydd ac Aaron McGowan, Morecambe Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption 46 o bwyntiau yw cyfanswm Casnewydd wedi'r canlyniad - dau bwynt yn llai na chyfanswm y tîm ar ddiwedd y tymor diwethaf

Fe gollodd Casnewydd gyfle i esgyn i safleoedd gemau ail-gyfle Adran Dau ar ôl ildio cic gosb yn chwarter awr olaf eu gêm gartref yn erbyn Morecambe.

Roedd yr Alltudion ar y blaen am y rhan fwyaf o'r gêm yn Rodney Parade wedi i Ben Tozer sgorio'i ail gôl y tymor yma ar ôl 14 munud.

Ond fe ildiodd y gôl-geidwad, Joe Day, gic o'r smotyn gyda 13 munud o'r ail hanner i fynd ar ôl llorio Garry Thompson, ac fe rwydodd capten y gwrthwynebwyr Michael Rose i unioni'r sgôr.

Roedd pwynt yn ddigon i Gasnewydd godi un lle i'r wythfed safle yn y tabl - un pwynt y tu ôl i Mansfield ac un ar y blaen i Lincoln City.

Dywedodd hyfforddwr Casnewydd, Mike Flynn bod ei dîm wedi cael y gorau o'r gêm oni bai am yn ystod 10 munud yn yr ail hanner.

"Mae'n bwynt arall... mae'n rhaid i chi jest gario ymlaen," meddai.

Gwrthwynebwyr nesaf yr Alltudion fydd Tottenham Hotspur gartref yn Rodney Parade ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.