Ymchwiliad Carwyn Jones: Rhai'n 'amharod' i gyfrannu

carwyn jones Image copyright Getty Images

Mae rhaglen Wales Live BBC Cymru wedi clywed bod yna amharodrwydd i roi tystiolaeth i ymchwiliad i ymddygiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Wythnos yn unig sydd gan bobl i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad James Hamilton fydd yn ystyried a wnaeth Mr Jones dorri'r rheolau ar gyfer gweinidogion Llywodraeth Cymru pan ddywedodd wrth y Cynulliad yn 2014 nad oedd unrhyw un wedi gwneud cwyn ynglŷn â bwlio.

Dywed Llywodraeth Cymru bod yr ymchwiliad yn "gwbwl annibynnol" a'i bod yn "hanfodol bwysig bod yr holl wybodaeth yn cael ei chyflwyno".

Ond mae nifer o unigolion â chysylltiad gyda Llywodraeth Cymru neu'r Blaid Lafur Gymreig sy'n teimlo bod ganddyn nhw wybodaeth berthnasol i'w rhannu wedi dweud wrth y rhaglen eu bod yn amharod i gyfrannu i'r ymchwiliad.

Dywedodd un person oedd yn arfer gweithio ar y "Pumed Llawr" - llawr y llywodraeth yn Nhŷ Hywel ym Mae Caerdydd - ei fod yn ofni canlyniadau rhoi tystiolaeth.

"Mae Cymru'n fach. Does dim cyfrinachau," meddai.

"Rwy'n amau bod pobl o fewn y llywodraeth yn mynd ati i ddarganfod pwy sy'n rhoi tystiolaeth. Mae hynny'n bwydo paranoia."

Targed trwy godi llais

Dywedodd tyst posib arall - aelod o'r Blaid Lafur yng Nghymru: "Rwy'n tueddu tuag at roi tystiolaeth, ond rwy'n poeni.

"Os ydych yn codi'ch llais o fewn y blaid rydych yn dod yn darged.

"Dan yr amgylchiadau yna does dim byd yn gyfrinachol, fydd pobl yn gwybod pwy ddywedodd beth, ond rwy'n teimlo cyfrifoldeb i gyfrannu."

Mae Tamsin Stirling, ymgynghorydd polisi tai i'r diweddar AC Carl Sargeant, yn bwriadu rhoi tystiolaeth ond mae'n dweud ei bod yn deall amharodrwydd eraill i wneud yr un peth.

"Gynted ag ydych yn dechrau trafod manylion dyddiadau, materion neu ddigwyddiadau penodol, mae'n eithaf hawdd i nabod pobl ac rwy'n deall os ydyn nhw'n poeni am gael eu nabod yn nhermau goblygiadau.

"Mae'n debyg fy mod i mewn sefyllfa wahanol - yn ymgynghyrydd polisi arbenigol yn hytrach nag ymgynghorydd gwleidyddol.

'Penderfyniad personol'

"Dydw i ddim wedi bod yn aelod o'r Blaid Lafur .... felly roedd fy nghysylltiadau gyda'r llywodraeth yn wahanol.

"Rwyf wedi ystyried y peth am gyfnod eithaf hir, mae'n benderfyniad personol ac mae'n rhaid i bawb benderfynu dros eu hunain."

Image copyright PA
Image caption Roedd James Hamilton yn Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn Iwerddon rhwng 1999 a 2011

Fe wnaeth Mr Jones gomisiynu Mr Hamilton, cyn-brif erlynydd Iwerddon ac ymgynghorydd annibynnol i Lywodraeth Yr Alban, ym mis Tachwedd i gynghori a oedd y Prif Weinidog wedi torri'r cod gweinidogol.

Mae'n dilyn awgrym bod Mr Jones wedi camarwain y Cynulliad pan ddywedodd wrth y Ceidwadwr Darren Millar ar 11 Tachwedd 2014, bod "dim honiadau wedi eu gwneud" o ddiwylliant o fwlio ymhlith ymgynghorwyr arbennig yn y tair blynedd blaenorol.

Mewn ymateb wedyn ar 14 Tachwedd 2017 i gwestiynau yn y Senedd gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies, dywedodd Mr Jones: "Fe gafodd unrhyw faterion a gafodd eu tynnu i'm sylw ar y pryd eu delio â nhw."

Fe fydd Mr Hamilton yn ymchwilio i'r atebion yna.

Trefniadau 'ar wahân'

Pan gyhoeddwyd manylion yr ymchwiliad, dywedodd llefarydd ar ran Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Shan Morgan, bod camau wedi eu cymryd i sicrhau bod y trefniadau gweinyddol ar gyfer Mr Hamilton, yn hollol ar wahân i swyddfa'r Prif Weinidog a gweddill Llywodraeth Cymru."

Dywedodd y llefarydd y byddai "deunydd yn ymwneud â'r broses yn cael ei storio ar wahân i systemau mewnol eraill Llywodraeth Cymru."

Wedi marwolaeth Carl Sargeant, fe honnodd y cyn-aelod o'r cabinet Leighton Andrews bod diwylliant o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.

Image copyright Cyngor Rhondda Cynon Taf
Image caption Mae Leighton Andrews ymysg y rheiny sydd wedi dweud fod Carl Sargeant yn destun rhywfaint o'r "bwlio" oedd yn digwydd

Ac fe ddywedodd Darren Millar yn y Senedd ym mis Tachwedd mai'r rheswm iddo ofyn cwestiwn yn y Senedd yn 2014 am fwlio o fewn Llywodraeth Cymru oedd am i Mr Sargeant ofyn iddo wneud.

Mae Carwyn Jones wedi cydnabod bod yna "ddigalondid" a "blaenoriaethau oedd yn gwrthdaro" o fewn y weinyddiaeth flaenorol ond bod "dim honiad penodol o fwlio wedi ei gyflwyno erioed" iddo.

Ym mis Rhagfyr, gofynnodd Mr Millar wrth Mr Jones i hepgor yr egwyddor o gyfrifoldeb ar y cyd fel bod aelodau cabinet yn gallu rhoi tystiolaeth heb ofni'r canlyniadau.

Atebodd Mr Jones: "Fe all pob aelod roi pa bynnag dystiolaeth maen nhw'n meddwl sydd gyda nhw."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud droeon, mae'n hanfodol bwysig bod yr holl dystiolaeth yn cael ei roi i'r ymgynghorydd annibynnol, James Hamilton."

Pryder

Mae Andrew TT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi mynegi pryder ynglŷn â'r honiadau.

"Mae hyn yn codi cwestiynau pellach am Lywodraeth Carwyn Jones, a gallu'r ymchwiliad i ganfod y gwirionedd.

"Mae gennym nifer o amheuon am y broses, yn enwedig methiant y Prif Weinidog i gadarnhau y bydd gweinidogion yn rhydd i roi tystiolaeth i Mr Hamilton heb ofn cael eu cosbi.

"Mae'r Cynulliad, pobl Cymru a'r rhai sydd wedi gwneud y cyhuddiad yn haeddu ymchwiliad trwyadl a thryloyw - byddai unrhyw beth llai yn gywilydd."

Straeon perthnasol