Dylanwad Cymraes fu'n gyfaill oes i Elizabeth I

A photo of a portrait of Blanche Parry, now missing Image copyright Pilley
Image caption Hen lun o ddarlun artist o Blanche Parry - mae'r llun ei hun wedi bod ar goll ers rhai blynyddoedd

Blanche Parry oedd y Gymraes fwyaf dylanwadol yn oes y Tuduriaid, ond prin ydy'r rhai sy'n nabod ei henw a llond llaw yn unig sy'n gyfarwydd â'i stori.

O'i chartref ar y gororau, fe aeth i lys y Tuduriaid, i fagu'r Dywysoges Elizabeth ifanc a throi'n ffrind agos ddaeth i fyw, i gysgu, ac - mae rhai yn honni - i siarad Cymraeg gyda'r Frenhines.

Mae arbenigwyr ar y berthynas yn dweud i Blanche, a oedd yn dod o gartref Gymraeg, ganu hwiangerddi wrth ymyl gwely'r dywysoges ifanc, tra'n hwyrach yn eu bywydau, bu'r ddwy yn defnyddio geiriau Cymraeg i guddio'u trafodaethau am gymeriadau'r llys.

Mewn rhaglen ar gyfer BBC Radio Wales dwi wedi trio dod i'r afael â'r gwirionedd am rôl Blanche Parry yn sioe grand Elizabeth, a sut ddylanwadodd ei Chymreictod ar y Frenhines yn ystod eu bywydau hir yng nghwmni ei gilydd.

Image caption Eglwys St Faith yn Bacton

Fe ddechreuodd fy nhaith yn Lloegr, lle mae plwyf Bacton yn gorwedd yng nghwm Dore. Erbyn hyn mae'r ardal yn rhan o Sir Henffordd, bum milltir dros y ffin.

Ond yn y 16eg ganrif roedd hi'n gartref i'r Cymry Cymraeg, lle roedd tŷ crand teulu Blanche Parry yn cynnal ciniawau crand ac yn denu beirdd fel Guto'r Glyn i ddiddanu'r gwesteion.

Erbyn hyn, mae New Court wedi dymchwel, amlinelliad o sylfaen y muriau yn y coed ar ymylon y cwm ydy'r unig arwydd o bresenoldeb y plasdy.

'Eisiau darganfod mwy'

Ochr arall i'r caeau gwag, fe gwrddais â Ruth Richardson, cyn ddarlithydd archaeoleg sydd bellach yn 70 oed ac wedi troi'n hanesydd i drio dilyn hanes Blanche Parry o'r gororau i lys y Tuduriaid.

"Mi oeddwn i am ddarganfod mwy amdani hi. Doedd neb yn ymddangos eu bod yn gwybod unrhyw beth o gwbl am Blanche Parry, gafodd ei chyfri fel un o weithwyr domestig y cyfnod," meddai Ruth wrthai yn ystod fy ymweliad cyntaf i'w bwthyn, ble mae ei phapurau a'i llyfrau am oes Elizabeth yn llenwi bob cornel o'r ystafell fyw.

Image caption Mae'r archeolegydd a'r hanesydd Ruth Richardson wedi ymchwilio'n drwyadl i hanes Blanche Parry

Roedd y cyfrolau'n cynnwys ei bywgraffiad hi o Blanche Parry, un o'r unig lyfrau i ganolbwyntio ar ffrind annwyl Elizabeth.

"Buodd hi'n un o staff personol Elizabeth," dechreuodd Ruth. "Mi gymerodd hi drosodd fel Prif Fenyw y Siambr Breifat - Chief Gentlewoman of the Privy Chamber- ac rydyn ni hefyd yn gwybod bod yna gyfnod pan ddaeth y chwaer Mary yn frenhines, fod Elizabeth wedi mynd i Dwr Llundain.

"Er nad ydy Blanche wedi'i henwi yn benodol, doedd Elizabeth ond yn cael mynd ag un neu ddau o'i staff personol, a byddai Blanche wedi bod yn un ohonynt."

Ond sut ddaeth hi'n aelod ganolog o staff Elizabeth?

Aeth Blanche Parry o'i chartref yn Bacton i lys y Tuduriaid pan roedd Elizabeth yn dywysoges ifanc. Roedd ei modryb, yr Arglwyddes Troy, yno'n barod yn un o forwynion ffrind i Anne Boleyn.

Image caption Darlun Isaac Oliver o Elizabeth I, a'r wisg sy'n cydfynd â'r gwaith brodwaith yn eglwys Bacton

Tra bod bywyd domestig y Tuduriaid yn bell iawn o fod yn normal, cyfrifoldeb Blanche a'i modryb oedd magu'r plant.

"Mae'n eitha posib i'r plant naill ai ddysgu, neu o leia ddeall, hwiangerddi Cymraeg," datgelodd Ruth.

"Oherwydd, dwy fenyw Gymreig a Chymraeg oedd yn gofalu amdanyn nhw, ac mae'n sicr yn bosib eu bod nhw wedi canu hwiangerddi Cymraeg i gael Elizabeth i gysgu."

Brethyn Bacton

Yn y blynyddoedd i ddod, fe esblygodd Cymreictod llys Elizabeth - pwynt gafodd ei atgyfnerthu gan Eleri Lynn, curadur gwisg hanesyddol Palasau Brenhinol Hanesyddol.

Yn y stwidio cadwraeth ym Mhalas Hampton Court, fe ddangosodd Eleri frethyn Bacton i fi.

Hwn ydy'r darn o decstil llawn brodwaith manwl a fu'n hongian ar wal eglwys Sant Faith ym Macton tan 2016, pan ddaeth Eleri o hyd iddo, a'i gysylltu ag oes y Tuduriaid.

Image caption Mae arbenigwyr wedi cadarnhau fod y darn brodwaith o eglwys Bacton yn wisg llys o gyfnod Elizabeth I

Roedd Eleri yn gywir am wreiddiau'r brethyn. Mae ei thîm wedi cadarnhau mai hwn ydy'r unig ffrog o gwpwrdd Elizabeth i oroesi, gwisg mor grand fel ei bod yn cynnwys edau o aur ac arian.

"Mae hwn yn oroesiad unigryw o wisg y llys o oes Elizabeth," meddai Eleri. "Yn y byd, does dim byd tebyg iddi. Felly ar hyn o bryd, dyma'r unig eitem o wisg y llys sydd wedi goroesi gyda'r fath gysylltiad ag Elizabeth I.

"Mae ambell i ddarn bach wedi goroesi, fel bŵts ac esgidiau, ac ambell i eitem bach iawn. Ond dim byd ar y raddfa yma, a dim byd o'r safon neu'r statws yma. Mae'n unigryw."

Arddangosfa fawreddog yn 2019 fydd y cyfle cyntaf i'r cyhoedd weld y ffrog.

'Stori Gymreig'

Tra'n ymchwilio i gymeriadau Cymreig llys Elizabeth, fe ddaeth Eleri Lynn yn gyfarwydd â Blanche Parry a'r brethyn oedd yn hongian yn eglwys ei phentref enedigol.

Dwedodd Eleri, sy'n wreiddiol o Bontypwl: "Mae'r stori yma mor Gymreig mewn gymaint o ffyrdd.

"Roedd caniatâd gan y Frenhines i gael dillad wedi'u creu gan ddylunwyr penodol yn unig, oherwydd roedd y llys yn poeni y byddai anrhegion o ffrogiau wedi'u gwenwyno yn cyrraedd y Frenhines.

"A dim ond dau ddylunwr ffrogiau fu gyda hi trwy gydol ei chyfnod. Roedd hi'n ymddiried ynddyn nhw, ac rydyn ni'n gwybod mai'r dyn oedd yn gyfrifol pan gafodd y ffrog yma ei chreu oedd dyn Gymreig o'r enw William Jones."

Image caption Cerflun o Blanche Parry (chwith) gydag Elizabeth I yn eglwys Bacton

Ond beth am y syniad bod Blanche wedi dysgu Cymraeg i Elizabeth?

"Mi faswn i am gredu hynny hefyd, oherwydd roedd Blanche yn gallu siarad Cymraeg. Hi oedd "Blanche, Ferch Harri" ac roedd hi gydag Elizabeth ers iddi fod yn ferch fach iawn.

"Felly byddai Elizabeth efallai wedi clywed hwyangerddi Cymraeg, ond hefyd roedd llys y Tuduriaid yn hoff iawn o ddefnyddio codau a chyfrinachau.

"Mae'n dda i feddwl y gallai Blanche ac Elizabeth fod wedi defnyddio bach o Gymraeg, ambell i air bach neu frawddeg, i ddweud 'O, fe allwch chi gael gwared ohono fe,' neu 'Dewch â'r un yma yn agosach.' Rhywbeth a allai fod yn gyfrinach rhyngthyn nhw."

Cymry yn y llys

O ystyried hanes y Tuduriaid, dydy hi ddim yn rhyfedd fod Elizabeth wedi dewis cadw Cymraes yn agos ati.

Mae Eleri yn esbonio: "Wrth gwrs, mae Tudur yn enw Gymraeg, felly mae eu llinach yn Gymreig.

"Roedd pobl Cymreig pwysig yn y llys, gan gynnwys William Cecil - yr Arglwydd Burghley, ac yna roedd Blanche Parry, ffrind agosaf i Elizabeth, o'i chrud bron i'w bedd. Roeddyn nhw'n agos iawn.

"Roedd Blanche hyd yn oed yn cysgu yn yr un gwely ag Elizabeth, ac yn ail fam iddi mewn nifer o ffyrdd. Byth yn briod, roedd hi wastad wrth ei hymyl."

Image caption Gwenyth Petty yn portreadu cymeriad Blanche Parry yn y gyfres Armada: 12 Days to Save England

Prin yw ymddangosiad Blanche Parry mewn gweithiau hanesyddol am y cyfnod, ac un o'r unig cyfleoedd i gynulleidfaoedd teledu ei gweld oedd pan chwaraeodd yr actores Gymreig, Gwenith Petty, rhan Blanche mewn rhaglen ddrama-dogfen yn canolbwyntio ar Elizabeth a'r Armada.

Tra'n siarad gyda Gwenith adeg y ffilmio ges i'r awydd i ddechrau edrych mewn i hanes Blanche.

Mae Ruth Richardson, sydd wedi gwario cymaint o amser yn trio darganfod gwir hanes ei chymydog, yn gobeithio bydd mwy o bobl yn dod i ddathlu bywyd y Gymraes ddylanwadol o Facton.

Dwedodd Ruth: "Pan ddechreuais edrych ar hanes Blanche Parry mi wnes i hynny gan ei bod hi wedi byw dros y ffordd, yn agos ata i. Ac o'n i methu credu nad oedd neb wedi gwneud hyn o'r blaen.

"Ond i'w rhoi hi nôl yng nghanol y llwyfan, lle mae'n haeddi bod? Wel mae hynny'n gyfle arbennig o dda."

Fe fydd Queen's Confidante: The Story of Blanche Parry ar BBC Radio Wales am 18:30 ar 25 Ionawr

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol