Ymchwiliad i farwolaeth ym Maesteg

Bridgend Road Image copyright Google

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i farwolaeth dyn 90 oed wedi i'w gorff gael ei ganfod mewn tŷ ar ffordd Pen-y-bont ym Maesteg brynhawn Sul.

Cafodd swyddogion eu galw i'r tŷ yn ardal Y Garth oddeutu 12.40.

Yn wreiddiol cafodd swyddogion arfog eu hanfon tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i amgylchiadau'r farwolaeth.

Dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus ac mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Bu'n rhaid cau'r ffordd i'r ddau gyfeiriad am gyfnod.