Roque Mesa yn gadael Abertawe am Sevilla ar fenthyg

Roque Mesa Image copyright Asiantaeth Huw Evans

Bydd chwaraewr canol cae Abertawe, Roque Mesa, yn symud i chwarae dros Sevilla ar fenthyg am weddill y tymor.

Fe wnaeth Mesa, 28, arwyddo i Abertawe dros yr haf gan symud o Las Palmas am £11m.

Arwyddodd gytundeb pedair blynedd o hyd ar y pryd, ond mae'n dychwelyd i Sbaen wedi chwe mis yn ne Cymru.

Mae Mesa wedi chwarae 16 o weithiau dros yr Elyrch, ond dim ond unwaith ers i Carlos Carvalhal gymryd swydd y rheolwr.