Gwasanaethau iechyd 'am chwalu oni bai bod gweithredu'

nyrs a chlaf Image copyright Getty Images

Heb newidiadau pellgyrhaeddol ar sut i ddarparu gofal, fe allai rhai gwasanaethau iechyd "ddymchwel" heb rybudd, gan beryglu cleifion.

Dyna rybudd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, sy'n galw am "drafodaeth genedlaethol aeddfed" ynglŷn ag adrefnu'r gwasanaethau iechyd.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, mynnodd Mr Gething y dylai gwleidyddion o bob plaid fod yn ddigon "cyfrifol" i sylweddoli fod rhaid gwneud penderfyniadau anodd am wasanaethau lleol, os am sicrhau dyfodol hirdymor i'r gwasanaeth.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi cynlluniau dadleuol i adrefnu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru.

'Gwasanaethau bregus'

Dywedodd Mr Gething na allai wneud sylw ynglŷn â'r cynlluniau hynny, gan y gallai yn y pendraw orfod gwneud penderfyniad terfynol amdanyn nhw.

Ond mynnodd fod Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi cynlluniau dadleuol ac amhoblogaidd os oes angen.

"Y dewis i wleidyddion yw un ai dweud 'dwi ddim ond am gefnogi'r rhai mwyaf swnllyd yn y ddadl a dwi'n mynnu eich bod chi yn stopio popeth', neu gydnabod yr hyn sydd wedi cael ei ddweud, sef bod gwneud dim byd y peth gwaethaf ar gyfer dyfodol y gwasanaeth iechyd."

Oni bai fod penderfyniadau anodd yn cael eu gwaneud ar ailwampio gwasanaethau, meddai, gallai rhannau o'r gwasanaeth iechyd chwalu oherwydd heriau fel prinder staff a galw cynyddol am ofal i boblogaeth sy'n heneiddio.

Image caption Mae Vaughan Gething wedi dweud na all pethau aros fel y maen nhw

Ychwanegodd nad oes modd mynd i'r afael â hynny bellach drwy wario arian yn unig.

Mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn ystyried cynlluniau i adrefnu gwasanaethau iechyd yn y gorllewin, a'r opsiynau dan ystyriaeth yn cynnwys cau rhai ysbytai, symud adnoddau i ganolfannau cymunedol, a chynnig mwy o ofal yng nghartrefi pobl.

Ond mae posibilrwydd cryf y gallai ysbyty newydd sbon gael ei adeiladau, yn canolbwyntio ar ofal brys, ar un o dri safle sy'n cael eu hystyried.

Yn ôl Dr Meinir Jones, sy'n feddyg teulu ac yn gyfarwyddwr trawsnewid Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mae'n rhaid newid gwasanaethau er mwyn ceisio ymateb i'r heriau sylweddol presennol.

"Ni'n gwybod so ni gallu aros fel y'n ni. Mae gaps yn y rota gyda ni ar draws yr ysbytai. Mae 'na rhai gwasanaethau yn fwy fragile na rhai eraill," meddai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dr Meinir Jones: 'Staff yn gweithio mwy na ddylen nhw'

"Mae pobl yn aros yn rhy hir i weld GP, maen nhw'n aros rhy hir i ddod mewn i'r ysbytai.

"Pan maen nhw yn yr ysbytai, maen nhw'n aros rhy hir yn yr ysbytai, achos does dim digon o resilience yn y gymuned i ddod â'r bobl nôl yn agos i gartre'."

Un o'r prif heriau yn y gorllewin yw prinder staff.

Mae Hywel Dda yn dibynnu mwy ar gyflogi staff dros dro nag unrhyw gorff iechyd arall yng Nghymru.

Ers mis Ebrill, maen nhw wedi gwario dros £4m y mis yn llenwi bylchau, a'r amcangyfrif yw y byddan nhw'n gorwario dros £64m yn y flwyddyn ariannol hon.

Mae Della Davies o Lanelli yn dioddef gyda chyflwr i'w hysgyfaint ond does dim rhaid iddi gael triniaeth yn yr ysbyty bellach. Mae nyrsys arbenigol yn dod i'w gweld ac mae ei gŵr, Gilmour yn canmol y gofal:

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Della Davies o Lanelli yn cael nyrsys arbenigol i ddod i'w gweld

Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu mai eu nod yw cyflwyno gwasanaethau sy'n fwy addas ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio, a symud mwy o ofal o'r ysbytai i gartrefi pobl os yw'n addas.

Prin yw'r rhai sy'n anghytuno â'r egwyddor o gynnig mwy o ofal fel hyn - na chwaith nad oes modd i'r gwasanaeth iechyd sefyll yn ei unfan.

Ond mae unigolion a chymunedau'n ddrwgdybus os yw hynny'n golygu colli gwasanaethau o'u hysbytai lleol.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae sawl ysgrifennydd iechyd wedi galw am newidiadau o ran gwasanaethau, ac mae'n ymddangos fod rhwystredigaeth cynyddol nad yw hynny wedi digwydd yn ddigon cyflym.

'Storio problemau'

Yn ôl Mr Gething, mae'n hanfodol fod staff iechyd yn arwain y drafodaeth.

"Bydd lot o bobl yn gweld gwleidydd a meddwl y gwaethaf - bod hyn i gyd yn ymwneud ag arian a mod i'n achub fy nghroen gwleidyddol fy hun," meddai.

"Mewn gwirionedd, mae'n fater llawer mwy i'r holl wlad.

"Felly os oes 'na ffigyrau o fewn y gwasanaeth mae pobl yn ymddiried ynddyn nhw, a'u bod nhw'n rhan o'r drafodaeth, fe allan nhw gyfeirio at yr ofnau a phryderon sydd gan bobl."

Ond mae hefyd yn dweud fod cyfrifoldeb penodol ar wleidyddion lleol i ystyried y darlun ehangach.

"Mae pobl sy'n rhedeg i ffwrdd o benderfyniadau anodd yn storio problemau ar gyfer y dyfodol - dw i ddim yn meddwl bod hynny'n dderbyniol," ychwanegodd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol