'Argyfwng' addoldai gwag Cymru medd parchedig a chyn-AC

Capel Elim, Llanddowror
Image caption Capel Elim yn Llanddowror yw un o'r rheiny sydd i fod i gau

Mae gweinidog ar bedwar o gapeli annibynnol Sir Gaerfyrddin, a chyn-Aelod Cynulliad wedi dweud fod argyfwng yn datblygu o ran addoldai gwag yng Nghymru.

Dywedodd y Parchedig Rhodri Glyn Thomas fod yr awdurdodau "ddim wedi rhagweld yr argyfwng yma sydd yn ein hwynebu ni o ran capeli gwag".

Mae aelodau dau o'i gapeli, Elim yn Llanddowror a Chapel Mair yn Sanclêr, wedi penderfynu cau'r addoldai a symud i gapel Bethlehem, Pwll Trap wrth i gynulleidfaoedd edwino.

Ond dair blynedd yn ddiweddarach, mae'r aelodau yn dal i aros am wybodaeth gan y Comisiwn Elusennau cyn medru symud ymlaen.

'Dylai fod yn syml'

Yn ôl Eirlys Thomas, aelod o Gapel Elim, mae yna arafwch dychrynllyd wedi bod ers y penderfyniad gan yr aelodau.

"Mae'n anodd oherwydd unwaith chi wedi neud y penderfyniad, dylse'r broses fod yn weddol rwydd," meddai.

"Dylse fod rhyw gynllun a rhywun i arwain chi drwy'r cynllun yn hawdd a dylse fe ddim hala mwy na misoedd."

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas fod "degau o gapeli yn mynd i fod yn wag ac angen eu gwaredu yn Sir Gaerfyrddin dros y blynyddoedd nesaf", a "channoedd drwy Gymru".

Image caption Mae Rhodri Glyn Thomas yn dweud y gallai'r hen gapeli gael eu haddasu i fod yn dai fforddiadwy

"Dyw e ddim yn ymddangos i fi bod yr awdurdodau wedi paratoi ar gyfer y sefyllfa yma o gwbl," meddai.

"Fe ddylai fod yna broses clir a syml pan mae'r penderfyniad yn cael ei wneud. Fe ddylai fod yn broses rwydd wrth gysylltu â'r Comisiwn Elusennau."

Mae Rhodri Glyn Thomas yn dweud bod angen ystyried datblygu polisïau cynllunio newydd i fynd i'r afael â'r argyfwng.

"Mae yna botensial o ran y cyngor sir o ran tai fforddiadwy, pobl ifanc, henoed, fe ellid addasu'r adeiladau yma, fe ddylsen nhw fod yn cydweithio gydag ymddiriedolwyr y capeli."

Image caption Mae addolwyr Capel Elim a Chapel Mair yn Sanclêr, wedi penderfynu ymuno â chynulleidfa Capel Bethlehem, Pwll Trap

Mewn datganiad dywedodd y cynghorydd Linda Davies Evans, aelod o'r bwrdd gweithredol dros dai ar Gyngor Sir Caerfyrddin: "Nid yw newid capeli'n gartrefi yn rhan o'n cynlluniau ar hyn o bryd ond nid yw'n rhywbeth y byddem yn ei ddiystyru yn y dyfodol.

"Mae hyn yn rhywbeth y gallwn ei drafod â'n cydweithwyr yn yr isadran gynllunio fel rhan o'n hadolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin."

Mae'r Comisiwn Elusennau wedi dweud nad oes ganddyn nhw gofnod o unrhyw ymholiadau yn ymwneud â Chapel Elim a Chapel Mair.

Ond mae'r Parchedig Tom Defis, aelod o bwyllgor bugeilio lleol Undeb yr Annibynwyr, wedi dweud ei fod wedi gwneud ymholiadau ynglŷn â'r ddau gapel fwy nag unwaith.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol