Adran Dau: Lincoln 3-1 Casnewydd

Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Peniad Matt Rhead yn mynd â Lincoln ar y blaen yn gynnar yn y gêm

Colli fu hanes Casnewydd i ffwrdd yn erbyn Lincoln nos Fawrth.

Ar ôl llwyddo i sicrhau gêm ail-chwarae yn erbyn Tottenham yng Nghwpan FA lloegr dros y penwythnos, fe fethon nhw â chreu'r un sbarc yn yr Ail Adran.

Fe aeth peniad gan Matt Rhead â'r tîm cartref ar y blaen, cyn Padraig Amond unioni'r sgôr.

Ond fe aeth Matt Green a Lincoln ar y blaen unwaith eto, cyn i'r eilydd Ollie Palmer selio'r fuddugoliaeth.

Mae'r canlyniad yn gadael Casnewydd yn ddegfed yn y tabl.

Pynciau Cysylltiedig