Gorfodi toriadau 'brawychus' ar y parciau cenedlaethol

Llwybr yn ardal Rhyd Ddu

Mae gweinidogion Cymru'n cael eu cyhuddo o orfodi toriadau mawr ar barciau cenedlaethol y wlad, tra bod cyllidebau tirweddau dynodedig Lloegr wedi'u gwarchod.

Mae disgwyl i'r cymorth ariannol i dri pharc cenedlaethol Cymru syrthio i'w lefel isaf ers 2001.

Yn ôl prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Emyr Williams, mae'r sefyllfa'n "frawychus".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y setliad ariannol yn "heriol" ond eu bod wedi rhoi arian ychwanegol ar gyfer prosiectau o bwys ac yn ystyried rhoi mwy o gefnogaeth.

'Anodd gweithredu'

Mewn cyfweliad â rhaglen Y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Williams ei fod yn cydnabod bod gweinidogion Bae Caerdydd yn wynebu penderfyniadau anodd ar adeg o gynni ariannol.

Ond honnodd bod y parciau'n cael eu targedu "o hyd ac o hyd".

"Ry'n ni'n dechrau meddwl ein bod ni'n mynd i'r pwynt lle mae'n anodd gweithredu.

"Y perygl ydy bod yr ardaloedd yma'n mynd yn fwy poblogaidd, ffigyrau ymwelwyr yn cynyddu a dipyn o arian yn cael ei roi i ddatblygu Cymru fel brand a lle anturus.

Image caption Dywed Emyr Williams y bydd grant Llywodraeth Cymru i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn is erbyn 2020 na'r ffigwr yn 2001

"Ond does gan neb lawer o ddiddordeb yn y gwaith dyddiol o gynnal a chadw a gwneud yn saff bod y cynnyrch yn iawn.

"Felly y perygl yw bydd y cynnyrch yn dirywio, bydd yr amgylchedd yn dirywio a bydd na broblemau yn yr ardaloedd yma."

Bydd bwrdd yr awdurdod yn cwrdd wythnos nesaf i drafod ymgynghoriad ynglŷn â'r toriadau.

Mae hyd at 10 aelod staff yn wynebu colli'u gwaith, wrth i'r parc orfod gwneud arbedion o £784,087 dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae prisiau parcio i ymwelwyr hefyd yn debygol o godi, a llai o waith cynnal a chadw dan ystyriaeth.

Hanner yr adnoddau

Mae 40 o swyddi eisoes wedi mynd yn y blynyddoedd diweddar oherwydd toriadau, gan effeithio ar "ffabrig cymdeithasol" yr ardal a'r iaith Gymraeg, meddai Mr Williams.

Erbyn 2020 bydd grant Llywodraeth Cymru i'r awdurdod yn is na'r ffigwr yn 2001.

Mae hynny'n "frawychus" yn ôl Mr Williams: "Pan mae rhywun yn ystyried chwyddiant cyflogau a chwyddiant cyffredinol hefyd mae gennym ni lai na hanner yr adnoddau oedd gynnon ni [20 mlynedd yn ôl]."

"Rydyn ni yn cymharu ein hunain â pharciau yn Lloegr ac yn gweld ein bod ni mewn sefyllfa llawer gwaeth o'i gymharu â nhw."

Wyddfa werth £66m

Yn 2015 fe addawodd Llywodraeth y DU warchod cyllidebau parciau cenedlaethol Lloegr tan 2020, ond mae gweinidogion yno hefyd wedi'u cyhuddo o dorri miliynau o bunnau o nawdd yn y gorffennol.

Dywedodd Mr Williams bod angen i wleidyddion ystyried y buddion ychwanegol y mae tirweddau dynodedig yn eu darparu ar wahân i warchod yr amgylchedd.

"Ond pan da chi'n sbïo ar ein gwaith ni, mae'r Wyddfa yn ei hun gwerth £66m y flwyddyn i economi'r ardal, gwerth y tri parc i Gymru dros hanner biliwn y flwyddyn.

"Felly mae'n allbynau ni yn fwy na ond gwaith amgylcheddol - maen nhw'n allbynau yn ymweud â'r economi, iechyd, lles ac addysg hefyd."

Image copyright Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Image caption Bydd bwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn trafod toriadau posib yr wythnos nesaf

Mae disgwyl i dri pharc cenedlaethol Cymru wneud arbedion o 5% yn 2018/19, gyda disgwyl gofynion tebyg yn 2019/20.

Yn achos awdurdodau parciau Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro, mae'n golygu torri oddeutu £200,000 y flwyddyn.

Dywedodd y ddau barc wrth BBC Cymru y bydden nhw'n "parhau i weithio'n fwy effeithiol i wneud arbedion a chynyddu refeniw lle bo modd i sicrhau ein bod yn dal i gynnig gwasanaethau o safon".

Mae'r toriadau'n golygu y gallai gwirfoddolwyr ac elusennau fod â rôl bwysicach yn y dyfodol.

Dywedodd John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, fod penderfyniadau'n cael eu gwneud ynglŷn â "lefelau gwasanaeth y bydd pobl yn sylwi arnyn nhw".

Image caption Mae risg o fethu siawns i arwain y byd ar ddeddfwriaeth amgylcheddol, medd John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri

"Ar hyn o bryd, mae 'na risg i bethau fel mynediad, wardeiniaid, cadwraeth natur ac yn y blaen - mae 'na gwestiwn a fydd 'na wasanaeth digonol yn y meysydd yma."

Bydd pryderon yn codi hefyd, meddai, ynglŷn â goblygiadau'r sefyllfa ar allu Llywodraeth Cymru i weithredu deddfwriaeth newydd yn ymwneud â'r amgylchedd a lles cenedlaethau'r dyfodol.

"Mewn ffordd, y perygl gwaetha' yw'r risg o fethu siawns i arwain y byd ar ddeddfwriaeth amgylcheddol.

"Mae parciau cenedlaethol mewn sefyllfa perffaith i arwain ar y gwaith yna, i symud ymlaen i arddull hollol newydd o gyflawni ar bioamrywiaeth, ar yr economi leol, ar sut 'da ni'n datrys problemau enfawr fel allyriadau carbon, llifogydd ac yn y blaen."

"Ond heb y capasiti, heb y staff a'r arbenigedd sydd wedi bildio fyny dros ddegawadau yn y parciau, heb yr hyder sy'n dod o adnoddau digonol - mae hwnna yn mynd i fod yn her enfawr."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn derbyn bod y setliad ariannol yn heriol, ond bod modd i awdurdodau'r parciau cenedlaethol gynllunio o flaen llaw yn well o ganlyniad cael setliad dwy flynedd.

"Rydym hefyd wedi rhoi £2m ychwanegol yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig ar gyfer prosiectau sy'n cael blaenoriaeth, ac ar gyfer delio â phwysau annisgwyl, sy'n uwch o lawer na lefel y gostyngiad i'r grant craidd. Bydd ystyriaeth i ragor o gefnogaeth ar y sail yma."

Ychwanegodd eu bod yn cydweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau newydd, ac yn buddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol sy'n gwarchod a gwella tirweddau'r parciau cenedlaethol.

Straeon perthnasol