"Mi fydd hi'n llwm iawn ar y Gymraeg heb fusnesau lleol"

Gari Wyn Image copyright Gari Wyn

Prynu'n lleol - a tharo bargen gyda busnesau - ydy'r unig obaith i'r Gymru Gymraeg, yn ôl Gari Wyn.

Mae'r gwerthwr ceir a'r dyn busnes wedi bod yn cyflwyno ei raglen radio wythnosol ei hun am fentergarwch a'r byd busnes ers bron i bedair blynedd bellach.

Er ei fod wedi cyfweld degau o bobl fusnes llwyddiannus, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, mae'n dal i ddweud bod angen mwy o gefnogaeth ar fusnesau lleol.

"Mae prynu'n lleol yn hanfodol. Mae angen i bobl gysylltu hefo busnesau lleol a dweud wrthyn nhw, 'reit, gwrand'wch - dwi wedi gweld hwn am y pris yma ar y we, fedrwch chi wneud yr un fath i mi?'

"Y gwir amdani ydy mi fasa'r rhan fwyaf o fusnesau yn gallu'i wneud o.

"Mae hynny mor allweddol os ydyn ni'n mynd i allu gwrthsefyll ton ar ôl ton o fusnesau ar y we sy'n dwyn ein busnesau ni."

Busnes yn y gwaed

Mae busnes wedi bod yng ngwythiennau'r hogyn o Uwchaled erioed gan fod ei deulu yn rhedeg garej yng Ngherrig y Drudion - yn ogystal â gwerthu petrol i yrwyr ar yr A5 roedd ei dad yn fecanic ac yn gwerthu ambell i fan.

Er mai athro hanes yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon oedd Gari ar ddechrau ei yrfa roedd o eisoes wedi datblygu trwyn am fargeinion.

"Ro'n i wrthi yn wheelio-dealio, yn prynu a gwerthu bob math o offer trydanol a watches a hyn a'r llall, a hefyd yn delio hefo ceir ralïo - y Cortinas Mark 1, RS2000, Ford Escort Sports..."

Image copyright Gari Wyn
Image caption Gari yn 'wheelio-dealio' yn yr 80au

"Mae gen i fy ffôn symudol gwreiddiol, sydd fel bricsan - mi wnes i dalu £1200 amdano fo. Ro'n i yn ei roi i 'nhad pan o'n i'n dysgu, a wedyn yntau'n mynd ag o hefo fo i'r ocsiynau ceir. Rhwng gwersi, rhedeg i'r ffôn yn yr ysgol a gofyn iddo fo, 'reit dad, be ydach chi wedi'i weld?'

"Er 'mod i wirioneddol yn hoffi dysgu, roeddwn i wedi penderfynu bod yn rhaid i mi drio gwneud rhywbeth, oherwydd 'mod i'n teimlo nad oedd 'na ddigon o Gymry mewn busnes.

"Nes i ddarllen erthygl yn The Sunday Times pan o'n i'n 34, yn d'eud os nad wyt ti'n ail-ddechrau gyrfa arall cyn dy fod yn 35, wnei di ddim gwneud yr ail un yn llwyddiannus."

"Am y bedair blynedd olaf fel athro ro'n i'n teimlo nad oeddwn yn rhoi tegwch i'r un o'r ddwy job, a nes i benderfynu brynu garej ym Methel.

"Dwi wastad wedi rheoli fy risg, ac yn dal i wneud hynny hefo bob symudiad dwi'n wneud heddiw. Wna i byth fenthyg gormod o bres.

Image copyright Gari Wyn
Image caption Ffôn symudol cyntaf Gari - ar gefn Ferrari

Cefnogaeth y teulu

"Yn yr achos yma fe ddaru mam a'n nhad a'm mrawd wagio eu cynilion i gyd, ac fe wnaethon nhw i gyd gymryd y risg o roi eu harian i gyd i mi.

"Yn ogystal â'r busnes ceir, erbyn hyn mae gennym ni bortffolio eiddo eitha eang mewn meysydd eraill hefyd, ond mae fy nghariad i a'n niddordeb i at geir yr un mor deimladwy ag a fuodd o erioed.

"Dwi newydd fod yn cael gwefr enfawr o ddreifio BMW M Sport sydd newydd ddod i mewn - ac mae o wedi dod â gwên fawr i mi!

"Ond dydy dyn busnes gwir llwyddiannus byth yn dangos ei hun hefo tegannau drud - dwi wedi dysgu'r wers yna ers blynyddoedd. Dwi ddim hyd yn oed yn prynu car drud i mi fy hun bellach, achos mae'n rhoi llawer iawn mwy o bleser i mi i roi'r arian yn ôl i mewn i'r busnes.

"'Dyn ni angen pobl ifanc i weld ei bod yn wir bleser i sefydlu busnes, yn enwedig os wyt ti'n fos arnat ti dy hun, achos i mi y busnesau bach a chanolig ydy'r ffordd ymlaen i gefn gwlad.

"A heb gael pobl i ddechrau pethau felly - ac i wthio yn erbyn busnesau ar y we - mi fydd hi'n llwm ar y Gymraeg, achos dydy'r ardaloedd gwledig Cymraeg ddim yn cael y gefnogaeth yna o Gaerdydd."

Image caption Gari gyda dau fentrus arall, Gwyndaf ac Elfyn Evans. Yn ogystal â gwneud eu marc yn y byd ralïo maen nhw'n rhedeg garej deuluol yn ardal Dolgellau

Potensial - a gwaith caled

"Mae diboblogi cefn gwlad yn ei gwneud hi'n anoddach i fusnesau newydd, ond mae yna dal botensial yma, yn enwedig os fedar pobl ddefnyddio'r we i werthu eu cynnyrch.

"Mae fy ngweledigaeth syml i wedi'i seilio ar y ffaith mod i'n teimlo pa mor bwysig ydy gwaith caled a diwydrwydd.

"A dwi'n gwybod 'mod i dipyn bach yn OTT hefo gwaith - dwi dipyn bach yn obsessed, nes bod pobl sydd o 'nghwmpas i weithiau yn cael gwir lond bol arna i!

"Ond dwi ddim yn difaru dim oherwydd mi ydw i'n teimlo fy mod i wedi cyrraedd ambell i nod ac amcan, a dyna be' dwi'n drio'i roi drosodd yn y rhaglen ar Radio Cymru ydy cymaint o foddhad sydd yna o fod yn gystadleuol ac yn uchelgeisiol.

"Fedri di ddim osgoi'r ffaith ein bod ni angen pobl gystadleuol ac uchelgeisiol - yn enwedig o fewn y Gymru Gymraeg."

Gari Wyn, BBC Radio Cymru, bob dydd Llun, 12:00

Pynciau Cysylltiedig