Abertawe'n arwyddo Andre Ayew ac Andy King

Andre Ayew Image copyright Rex Features

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi ailarwyddo Andre Ayew o West Ham United am ffi sy'n record i'r clwb o Gymru.

Fe adawodd ymosodwr Ghana, 28, Yr Elyrch yn 2016 gyda West Ham yn talu £20m amdano.

Mae BBC Cymru'n deall bod Abertawe wedi talu £18m i'w ddenu yn ôl i'r clwb, ond bydd y ffigwr hwn o bosib yn codi i £20m.

Hefyd ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo, fe arwyddodd Yr Elyrch chwaraewr canol cae Caerlŷr a Chymru, Andy King, ar fenthyg.

Image copyright Rex Features

Mae Ayew wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner, ac mae'n ymuno â'i frawd, Jordan, yn Stadiwm Liberty.

Y mwyaf roedd Yr Elyrch wedi'i dalu am chwaraewr cyn hyn oedd £15.5m i Atletico Madrid am Borja Baston yn 2016.

Mae King, sy'n 29, wedi bod gyda Chaerlŷr drwy gydol ei yrfa broffesiynol, ond nid yw wedi bod yn ddewis cyntaf yn y tîm yn ddiweddar.

Roedd Abertawe'n awyddus i sicrhau mwy o opsiynau yng nghanol cae yn dilyn ymadawiad Roque Mesa i Sevilla.

Cadarnhaodd Abertawe hefyd bod yr ymosodwr ifanc, Oli McBurnie wedi ymuno â Barnsley ar fenthyg am weddill y tymor.