Caerdydd yn arwyddo Gary Madine ac Armand Traore

Gary Madine Image copyright Getty Images

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r ymosodwr Gary Madine o Bolton Wanderers am ffi o tua £6m.

Mae'r chwaraewr 27 oed wedi sgorio 10 gôl y tymor yma, ac mae wedi arwyddo cytundeb tair blynedd a hanner gyda'r Adar Gleision.

Madine yw'r chwaraewr drytaf i Gaerdydd brynu ers iddyn nhw ddisgyn o'r Uwch Gynghrair yn 2014.

Mae'r clwb hefyd wedi arwyddo Armand Traore am ddim wedi iddo gael ei ryddhau gan Nottingham Forest.

Mae'r amddiffynnwr 28 oed o Senegal wedi chwarae dros Arsenal a Juventus yn ystod ei yrfa.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Armand Traore wedi ennill pum cap dros Senegal

Fe wnaeth yr Adar Gleision arwyddo ymosodwr arall hefyd nos Fercher - Jamie Ward yn ymuno ar fenthyg o Nottingham Forest, gyda Lee Tomlin yn mynd y ffordd arall.

Roedd Tomlin yn un o dri chwaraewr i adael Caerdydd, gyda Omar Bogle yn ymuno â Peterborough ar fenthyg a'r golwr Lee Camp yn symud at Chris Coleman i Sunderland nes diwedd y tymor.