Anifeiliaid wedi marw mewn tân ysgubor yn Nhreffynnon

Tân ysgubor
Image caption Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i'r tân ddechrau tua 02:30 fore Iau

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n ymchwilio i dân mewn ysgubor yn Nhreffynnon yn Sir y Fflint.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i'r tân ddechrau tua 02:30 fore Iau.

Roedd gwartheg yn yr adeilad a dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod pum anifail wedi marw yn y fflamau.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn trin yr achos fel tân bwriadol. Maen nhw'n apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.