2-4-6-8 Motorwê

Go brin fod 'na ystafelloedd cyfarfod mwy afiach na'r rheiny sydd wedi eu lleoli yn y bont oedd yn cysylltu adeiladau'r hen Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays. Maen nhw wedi gwella rhywfaint ers i Lywodraeth Cymru eu hetifeddu ond yn ôl yn nyddiau'r Arglwyddi Rhaglawiaid Ceidwadol roeddent yn dywyll heb unrhyw olau dydd naturiol a'r muriau wedi eu troi'n felyn gan genedlaethau o ysmygwyr.

I un o'r ystafelloedd hynny y cawsom ni newyddiadurwyr ein galw yn ôl ar ddechrau'r 1990au er mwyn i weison sifil yr adran ffyrdd esbonio'r modd yr oedd ffaeleddau'r M4 yng Nghasnewydd yn tagu economi'r de a pha mor amhosib oedd hi i ddatrys y sefyllfa trwy wella'r ffordd.

Traffordd newydd sbon danlli i'r de o Gasnewydd oedd yr unig ateb ac yn unol â dogma'r oes ffordd dollau fyddai honno. Fe fyddai'r Via Carillion neu Capita hon yn cymryd ller'r Via Julia Maratima!

Roedd hynny yn 1991. Yn 1996 derbyniodd y cynlluniau sêl bendith William Hauge cyn i'r Llywodraeth Lafur newydd eu canslo yn sgil etholiad 1997.

Ymlaen â ni i 2004 a chyhoeddiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Andrew Davies yn atgyfodi'r cynllun. £350miliwn fyddai'r gost yn ôl Mr Davies ac fe fyddai'r heol newydd yn agor yn 2006. Erbyn 2009 doedd dal dim heol ond roedd y bil arfaethedig wedi codi i biliwn o bunnau - digon i ddarbwyllo Ieuan Wyn Jones i roi stop ar bethau.

Ond os oedd y Bae wedi colli brwdfrydedd, doedd San Steffan ddim ac yn 2011 gafwyd cynnig gan George Osborne i alluogi i Carwyn Jones dynnu'r ffenics afler allan o'i wely unwaith yn rhagor. Cafwyd addewid gan y Prif Weinidog hefyd. Fyddai'r gost ddim byd yn debyg i biliwn o bunnau. Cywir, Carwyn. £1.3bn yw'r amcangyfrif diweddaraf ac mae peth o'r arian hwnnw eisoes wedi ei wario wrth i Ymchwilad Cynhoeddus ymwlybro trwy'r dadleuon o blaid ac yn erbyn Via Carwyn.

Felly, a fydd yr heol yn cael ei hadeiladu y tro hwn? Peidiwch a betio'ch cot.

Yn dechnegol, does dim angen pleidlais yn y Cynulliad i fwrw ymlaen â'r cynllun ond fe fyddai'n ddigon hawdd i'r gwrthbleidiau orfodi un. Er mor rhyfedd oedd haeriad diweddar Arweinydd y Tŷ, Julie James, nad yw pleidleisiau'r Cynulliad yn clymu dwylo'r llywodraeth mae'n bosib ei bod hi'n gywir yn yr achos hwn. Serch hynny fe fydda'n gam gwallgof i lywodraeth fynd i ryfel â'i senedd ei hun ynghylch cynllun mor bwysig a dadleuol.

Mae'n debyg felly y bydd yn rhai i Carwyn fynd ar ofyn y Ceidwadwyr neu Ukip er mwyn gwireddu'r cynllun gan fod Plaid Cymru a rhai aelodau mainc cefn Llafur yn gadarn eu gwrthwynebiad. Fe fyddai Carwyn yn casáu gorfod gwneud hynny ond gallasai Andrew RT Davies fod mewn sefyllfa i ddweud "my way or no highway" gan adael y prif weinidog mewn twll.

Mae'n weddol amlwg bod Carwyn yn gweld y draffordd newydd fel un o'i gofebion gwleidyddol. Go brin y byddai ei olynwyr yn teimlo'r un peth. Os cwymp Carwyn, felly mae'n bosib y byddwn ni yn ôl lle dechreuon ni - gyda swyddogion yr adran ffyrdd yn crafu eu pennau mewn ystafell dywyll!