Y gân Gymraeg gyntaf i wneud argraff ar y sêr

Be ydy'r gân Gymraeg gynta' i wneud argraff arnoch chi? Dyma'r cwestiwn ofynnon ni i nifer o wyenbau cyfarwydd fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru ar 9 Chwefror.


Huw Stephens

Roedd gan fy chwiorydd bosteri U2 a The Cure ar eu waliau, ond hefyd Jarman a Steve Eaves. Y gân Gymraeg gynta fi'n cofio ydi Tracsiwt Gwyrdd, gan Geraint Jarman mewn disco yn Glanllyn.

Ro'n i ar drip yr Urdd, a fi'n cofio bod wrth fy modd gyda'r gân ar y pryd. Mae dal yn swnio fel clasur wrth gwrs, ac yn dod â atgofion o Glanllyn nôl.


Image copyright S4C

Nia Parry

Dwi'n hollol browd mod i 'di ymddangos yn fideo Yr Anhrefn, Rhedeg i Paris.

O'n i'n ferch ysgol yn Ysgol y Creuddyn a newydd gael perm, a cerddodd criw ohonon ni (yn y gwynt a'r glaw), fyny'r Wyddfa i fod yn y fideo!

Dwi'n cofio dawnsio a chwysu wrth iddyn nhw chwarae'r gân drosodd a throsodd.... a hogia'r Anhrefn heb eu topiau fel arfar!

Ond ro'n i mor siomedig o ga'l bod mewn fideo pop mor cŵl bod y perm newydd wedi gwlychu a mynd yn frizz mawr hyll ar fy mhen. Ro'n i'n edrych fel rhyw bŵdl mawr brown!

Tybed os mai cyd-ddigwyddiad ydy hi mai Mwyn ydy enw canol un o fy mhlant... neu falle bod Rhys Mwyn wedi cael mwy o ddylanwad arna i nag oddwn i'n feddwl?

Dw i'n dal i feddwl bod Rhys yn cŵl, yn gadarn ei farn ac yn fodlon gwthio'r ffiniau. Ella bod na pync rocar yn llechu tu fewn i fi yn rwla.


Dafydd Iwan

Mae'n anodd bod yn bendant wrth gwrs, ond mae Bugail Aberdyfi yn dod i'r meddwl yn syth.

Llais David Lloyd yn treiddio o'r gegin islaw pan o'n i yn byw ym Mrynaman, a finnau'n codi i weld pwy oedd bia'r llais tenor bendigedig.

Sentimentaleiddiwch hyfryd Ceiriog yn dod a deigryn i'r llygad. Dyna pryd 'nes i sylweddoli rym teimlad mewn cân mae'n debyg; mae sentiment yn iawn yn ei le!


Heledd Cynwal

Y gân Gymraeg nath greu argraff fawr arnai oedd Bobnob, gan Jess.

O ni'n 14 oed yn ysgol Bro Myrddin a fe nath ffrindie' o ysgol Dyffryn Teifi fenthyg tâp o albwm Jess, Y Gath i fi.

Wedyn fe ddechreuodd y gigs............


Jonathan Nefydd

Methu Dal y Pwysau gan Geraint Jarman yw'r gân amlwg sy'n dod i'r meddwl. Pan o'n i yn fy arddegau cynnar, ag yn byw ym Mangor Uchaf, metropolis y Gogledd, roedd sleifio mewn i gigs Neaudd JP yn obsesiwn misol.

Yn enwedig pan oedd Jarman in town, fy arwr cerddorol. Roedd gweld Tich Gwilym ar ei gitar, Pino Palladino ar y bâs a Jarman yn serennu ar flaen y llwyfan yn wefreiddiol a safon y gerddoriaeth a'r lyrics hynod farddonol yn anhygoel. Mae Methu Dal y Pwysau yn hollol hollol wych !


Lisa Angharad

Dere'i Gwtsho Lan Da Figan Eden. Cyn y gân yma, fy nealltwriaeth i o gerddoriaeth Cymraeg oedd canu 'steddfod a Plethyn... y ddau yn hynod o bert, ar adege!!

Ond pan glywes i Eden nes i sylweddoli bo' cerddoriaeth Gymraeg yn gallu swnio'n current heb swnio'n droëdig neu'n hen ffasiwn.

Cyn Eden, singalong songs fi oedd Twll Bach y Clo ac Ar Noson Fel Hon o'r opera roc Pum Diwrnod o Ryddid. Diolch i'r nefoedd wen am Eden weda i!

Dydd Miwsic Cymru Hapus i chi gyd!


Trystan Ellis-Morris Image copyright S4C

Trystan Ellis-Morris

Does gen i ddim côf o'r gân Gymraeg gynta i mi glywed ond yn sicr yr un nath greu argraff arnai ac sy'n dal i neud hyd heddiw ydy Dwylo Dros y Môr. Daeth cantorion Cymru at ei gilydd i godi arian leddfu'r newyn yn Affrica ym 1985. Roedden nhw yn cynnwys mawrion fel Huw Chiswell, Caryl a Geraint Jarman.

Mae'r linell "Ac yn yr haul cei weld y gwir, lle mae byw am ddydd yn byw am amser hir" yn sobri rywun bob tro dwi'n gwrando. Yn aml iawn mi fyddai'n rhoi'r gân 'mlaen yn y car a cogio mai fi 'di Geraint Griffiths. Chwip o gân!


Pynciau Cysylltiedig