Heddlu'n ymchwilio i ladrad banc yng Nglyn-nedd

Cerbyd banc Image copyright Tony Peck

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i ladrad banc yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn adeilad Banc TSB Glyn-nedd ychydig cyn 14:00 ddydd Iau.

Fe gafodd y brif ffordd ei chau wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.

Fore Gwener, dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad: "Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 14:00 ddydd Iau. Cafodd swm o arian ei ddwyn.

"Aeth dyn oedd yn gwisgo hoodie, oedd tua 5'8" o daldra, at swyddog G4S [cwmni diogelwch] wrth iddo fynd i mewn i'r banc, ac fe lwyddodd i ddwyn cynhwysydd arian.

"Llwyddodd i ddianc mewn car Volkwagen Beetle lliw arian gyda'r rhif LS54CNE oedd wedi ei barcio ger y banc.

"Credir bod ail ddyn yn y cerbyd. Cafodd y car ei ddarganfod yn ddiweddarach wedi'i losgi'n ulw."

Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis: "Rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad neu unrhyw weithgaredd amheus gerllaw. Yn ffodus ni chafodd y swyddog G4S ei anafu."

Gofynnodd yr heddlu i bobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad i ffonio 101 - neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111 - gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1800039200.

Pynciau Cysylltiedig