6 Gwlad
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Golwg Gareth Rhys Owen ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad

1 Chwefror 2018 Diweddarwyd 21:11 GMT

Mae Cymru wedi diodde ergyd arall cyn dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gydag un o'u tri bachwr - Scott Baldwin o'r Gweilch - ddim i chwarae eto'r tymor hwn oherwydd anaf i'w droed.

Ryan Elias o'r Scarlets sydd wedi'i ychwanegu at y garfan.

Fe fydd to Stadiwm Principality ar gau ar gyfer y gêm agoriadol yn erbyn Yr Alban.

Cyflwynydd rhaglen Y Clwb Rygbi, Gareth Rhys Owen, sy'n bwrw golwg ar apêl y gystadleuaeth a gobeithion tîm Warren Gatland.