Teyrnged yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Môn

Llun Teulu Image copyright Llun Teulu

Mae teulu dyn 39 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn wedi rhyddhau teyrnged yn son am eu colled enfawr.

Bu faw Derwyn Alun Jones o Niwbwrch ôl cael ei daro ar y lon orllewinol yr A55 rhwng cyffordd 5 a 6, ger troead Llangefni, toc cyn 19:00 ar 29 Ionawr.

"Rydym wedi ein chwalu o golli Derwyn - tad, mab a brawd oeddem yn ei garu'n fawr," meddai datganiad y teulu.

"Fe fydd colled enfawr ar ei ôl, gan bawb o'i deulu a'i ffrindiau.

"Mae'r teulu yn gofyn am breifatrwydd yn ystod yr amser anodd hwn."

Fel rhan o'u hymchwiliad mae'r heddlu am glywed gan unrhyw un â gwybodaeth am y gwrthdrawiad rhwng Mr Jones a cherbyd Vauxhall Meriva.

"Rydym yn awyddus yn enwedig i glywed gan unrhyw un sydd â lluniau fideo dash-cam o ddyn yn cerdded ar y ffordd," meddai'r llefarydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 a defnyddio'r cyfeirnod W011378.