Awr o oedi wedi gwrthdrawiad pedwar cerbyd M4 Casnewydd

Tagfeydd M4 Image copyright Traffig Cymru
Image caption Roedd ciwiau'n ymestyn am 10 milltir i gyfeiriad y dwyrain

Roedd oedi o hyd at awr i deithwyr ar yr M4 ger Casnewydd fore Llun yn dilyn damwain rhwng pedwar cerbyd.

Yn ôl asiantaeth Traffig Cymru, roedd dwy lôn ynghau i gyfeiriad y dwyrain ger cyffordd 24, Coldra gyda'r A449 a'r A48.

Erbyn 08:00 roedd y ciwiau'n ymestyn i 10 milltir o hyd.

Yn y cyfamser, cafodd un lôn o'r A48 yng Nghaerdydd ei chau yn dilyn gwrthdrawiad, wnaeth ychwanegu at yr oedi ar yr M4.

Pynciau Cysylltiedig