Mam a mab o Sir Benfro yn euog o lofruddio nain

achos llofruddiaeth Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Penelope John a Barry Rogers wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth

Mae mam a'i mab o Sir Benfro wedi eu cael yn euog o lofruddio nain 84 oed yn 2011.

Roedd yr erlyniad wedi honni fod alcohol a thabledi wedi eu rhoi i Betty Guy cyn iddi gael ei mygu gyda chlustog yn ei thŷ ym mhentre Johnston, rhwng Hwlffordd ac Aberdaugleddu.

Yn ystod yr achos roedd merch Mrs Guy, Penelope John 50, a'i ŵyr, Barry Rogers, 33, wedi gwadu'r cyhuddiad o lofruddiaeth.

Dywedodd y pâr i Mrs Guy farw o achosion naturiol yn Medi 2011.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Mrs Guy yn ddynes wael ar y pryd, ond nid oedd ei chyflwr yn un angheuol.

Yn ystod y pedair wythnos o dystiolaeth fe wnaeth y rheithgor glywed recordiad cudd gan yr heddlu o sgyrsiau rhwng Mr Rogers a Ms John yn ei chartref hi yn Llanddoged.

Fe fydd y ddau yn cael eu dedfrydu ddydd Iau.

Image copyright Wales News Service
Image caption Fe gafodd corff Betty Guy ei amlosgi ddyddiau wedi ei marwolaeth yn 2011