Cwpan FA Lloegr: Abertawe 8-1 Notts County

Abertawe Image copyright Getty Images

Mae Abertawe drwyddo i bumed rownd Cwpan FA Lloegr ar ôl buddugoliaeth gampus yn erbyn Notts County nos Fawrth.

Wedi gêm gyfartal 1-1 i ffwrdd yn Meadow Lane yr wythnos ddiwethaf, roedd gan yr Elyrch bwynt i'w brofi, ac fe wnaethon nhw hynny drwy sicrhau eu buddugoliaeth orau erioed yng Nghwpan FA Lloegr.

Tammy Abraham aeth ag Abertawe ar y blaen wedi 18 munud o chwarae, yn sgorio'i gôl gyntaf ers mis Hydref, cyn i Nathan Dyer ddyblu'r fantais 90 eiliad yn ddiweddarach.

Ychwanegodd Dyer drydedd, ac er i Noor Husin ymateb gyda gôl i'r ymwelwyr, fe rwydodd Abraham ei ail i fynd ag Abertawe 4-1 ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Image copyright Reuters
Image caption Daniel Davies yn dathlu ei gôl

Parhau wnaeth rheolaeth lwyr Abertawe o'r gêm yn yr ail hanner gyda goliau gan Kyle Naughton, Wayne Routledge, Tom Carroll a Daniel Davies.

Mae'r fuddugoliaeth wedi sicrhau lle i'r Elyrch yn y bumed rownd am y tro cyntaf ers 1980, a hynny i ffwrdd yn erbyn cyn glwb Carlos Carvalhal, Sheffield Wednesday.