Geirfa eira

Efallai nad ydyn ni'n ei weld mor aml â hynny, ond pan mae'r eira'n dod, mae gennym ni sawl ffordd wahanol o'i ddisgrifio. Ond beth fyddwch chi'n galw'r eira?

Image copyright Llinos Dafydd

Enwau am eira:

Eira

Plu eira

Ôd

Odi ("Odi odi, blawd yn codi")

Cynneiry - eira cyntaf

Eirlaw

Graddfeydd o eira:

Bwrw eira

Pluo eira

Pluo

Bwrw plu

Bwrw eira'n drwm

Tywallt yr eira

Gwneud eira mawr

Eira mân

Esgyrn eira

Sgiffin / Sgiffen - haen denau o eira

Sgythyn - haenan o eira

Bwrw eira'n ysgafn

Ffluwch

Ffluwchan

Ffliwchan

Bwrw ffluwch

Eira mawr

Storom eira

Lluwchio eira

Eira lluwch

Manod

Lluwch eira

Lluwcho

Eira tawdd

Slwtsh

Blanced o eira

Cnwd o eira

Dan orchudd o eira

Eiraog

Trwch o eira

Mae'r eira'n glynnu

Mae'r eira'n stico

Disgrifio bod eira ar ei ffordd:

Magu eira

Mae eira ar ei ffordd

Mae hi'n hel am eira

Dywediadau:

Lle heno eira llynedd?

Disgrifiadau:

Cyn wynned â'r eira

Gwyn fel yr eira

Fe wnaeth Manon Steffan Ros gychwyn trafodaeth am eira ar ei chyfrif Twitter ddydd Mawrth:

Rhannwch eich geiriau neu eich ymadroddion chi am wahanol farhau o eira gyda ni trwy e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk.

Hefyd o ddiddordeb: