Dyn yn cael ei saethu yn ei goes gyda gwn awyr yn Y Fenni

arestio dyn Image copyright Elliott Webb
Image caption Fe gafodd yr heddlu eu ffilmio yn arestio dyn

Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn ar ôl i ddyn 26-oed gael ei saethu yn ei goes gyda gwn awyr yn Sir Fynwy.

Dywedodd y llu bod dyn 31-oed yn y ddalfa ar ôl i swyddogion ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol.

Fe gafodd plismyn arfog a hofrennydd yr heddlu eu danfon i ardal Dan Y Deri y dref tua 15:20 brynhawn Mawrth wedi adroddiadau o wrthdaro rhwng dau ddyn.

Yn ôl yr heddlu, cafodd y dyn 26-oed ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau a'i ryddhau o'r ysbyty yr un diwrnod.

Mae'r heddlu'r pwysleisio bod yr achos yn un prin a bod dim perygl i'r cyhoedd yn gyffredinol ar unrhyw adeg yn ystod y digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig