Digwyddiadau'n dathlu'r iaith ar Ddydd Miwsig Cymru

Dydd Miwsig Cymru Image copyright Dydd Miwsig Cymru

Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws y wlad ddydd Gwener i ddathlu Dydd Miwsig Cymru.

Nod y diwrnod yw cael cyfle i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg, dysgu mwy am yr iaith drwy ei cherddoriaeth a defnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol.

Mae'n rhan o ymgyrch ehangach Llywodraeth Cymru i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gyda'r digwyddiad bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae'r llywodraeth wedi cyfrannu £110,000 at gynnal y diwrnod eleni.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg mai'r nod oedd dyblu'r nifer sy'n defnyddio'r iaith yn gymdeithasol.

'Defnyddio'r iaith yn gymdeithasol'

Dywedodd Elan Evans, cynorthwyydd marchnata Clwb Ifor Bach a threfnydd gigs Twrw, bod y diwrnod yn "sicr yn help" i gyrraedd targed siaradwyr Cymraeg y llywodraeth.

"Mae Dydd Miwsig Cymru'n gyfle i ni ddefnyddio lleoliadau eraill a gweithio gyda phobl newydd er mwyn cael cerddoriaeth Gymraeg allan at ystod fwy eang o bobl - dim jyst siaradwyr Cymraeg," meddai.

Image caption Dywedodd Elan Evans mai nod y diwrnod yw "cael cerddoriaeth Gymraeg allan at ystod fwy eang o bobl"

"Mae'n ffordd fwy cymdeithasol o ddefnyddio'r iaith Gymraeg, a llai stuffy efallai na mynd i rywbeth fel gwers Gymraeg.

"Mae'n ddiwylliant newydd i lot o bobl."

1.3 miliwn awr

Yn ôl ffigyrau sydd wedi'u rhyddhau'n arbennig ar gyfer y diwrnod gan wasanaeth ffrydio Spotify, fe wnaeth pobl wrando ar 1.3 miliwn o oriau o gerddoriaeth Gymraeg ar y gwasanaeth yn 2017.

Yr artistiaid dwyieithog gafodd eu chwarae fwyaf oedd The Joy Formidable, Super Furry Animals a Cate Le Bon.

Gwenno, Yws Gwynedd, Bryn Fôn, Al Lewis a Sŵnami oedd yr artistiaid Cymraeg eu hiaith gafodd eu ffrydio fwyaf.

Image caption Roedd Gwenno ymysg yr artistiaid Cymraeg gafodd eu ffrydio fwyaf

Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, mai'r nod oedd sicrhau bod pobl yn defnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol.

"Mae lot o bobl yn gallu siarad Cymraeg ond faint ohonyn nhw sy'n defnyddio'r Gymraeg?

"A dyna yw prif nod y diwrnod yma, i sicrhau bod pobl yn deall bod nhw yn gallu cymdeithasu yn y Gymraeg y tu fas i furiau'r ysgol."

Dywedodd hefyd y byddai llwyddiant y diwrnod yn cael ei fesur drwy'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

"Mae hwn yn rhywbeth fyddwn ni ddim yn gallu ei fesur dros nos, ond byddwn ni yn mesur tuag at y targed o filiwn o siaradwyr," meddai.

"Ar hyn o bryd mae tua 20% o bobl yn gallu siarad Cymraeg, dim ond 10% sy'n defnyddio'r Gymraeg, ac mae hynny'n nod i ni - dyblu faint sy'n defnyddio'r Gymraeg..."

'Trio dal sylw'

Mae creu rhestrau chwarae ar y gwasanaethau yma'n rhan fawr o'r diwrnod eleni, gyda chwe rhestr chwarae arbennig wedi'u creu sy'n cwmpasu genres gwahanol o gerddoriaeth Gymraeg.

Un sydd wedi bod yn gyfrifol am y rhain yw'r DJ a'r darlledwr, Gareth Potter, sy'n dweud bod gan gerddoriaeth y gallu i ysbrydoli.

"Nod y peth ydy trio dal sylw pobl sydd efallai ddim yn gwrando cymaint yn Gymraeg," meddai.

"Fi wedi anelu nhw at bobl sy'n licio miwsig, ond sydd efallai ddim yn ymwybodol o lot o'r stwff Cymraeg - felly mae'n rhoi man dechrau.

"Dylech chi ddim tanbrisio effaith cerddoriaeth - mae'n ddiwylliant poblogaidd a phwysig.

"'Dwi ddim yn meddwl ei bod yn gyd-ddigwyddiad bod ffrwydrad wedi bod mewn pop Cymraeg yn yr 80au a'r 90au cyn refferendwm '97."

Image copyright Dydd Miwsig Cymru
Image caption Mae rhestrau chwarae arbennig wedi'u creu ar gyfer y diwrnod

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod modd defnyddio cerddoriaeth fel rhan o'u cynllun ehangach i hybu'r defnydd o'r iaith.

Mae ystadegau gwefannau cymdeithasol, nifer yr ymwelwyr i'r wefan a ffurflenni adborth sy'n cael eu dosbarthu yn y digwyddiadau yn helpu, meddai.

Yn y tymor hir bydd y llywodraeth hefyd yn casglu'r data ynglŷn ag agweddau plant a phobl ifanc at gerddoriaeth.

Ychwanegodd y llefarydd mai dim ond dros y tymor hir y bydd modd mesur effaith digwyddiadau fel yma.

Mae manylion am yr holl ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal fel rhan o Ddydd Miwsig Cymru ar gael ar y wefan.

Straeon perthnasol