Cyfarfod yn codi pryderon am gynllun tai Penrhyndeudraeth

Cyfarfod Penrhyndeudraeth

Daeth degau o drigolion Penrhyndeudraeth at ei gilydd nos Iau i drafod cynlluniau i godi tai newydd yn y dref.

O dan Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn 2011-2026, gafodd ei gymeradwyo'r llynedd, gall tua 150 o dai gael eu hadeiladu yn y dref.

Mae tua 40 o'r rheiny wedi eu codi'n barod, ond mae 'na dri safle wedi'u clustnodi ar gyfer rhagor o dai.

Yn y cyfarfod, mynegodd nifer bryderon am effaith datblygiad o'r fath ar wasanaethau, traffig a'r iaith Gymraeg.

Wrth agor y cyfarfod, cwestiynodd y cynghorydd cymuned Elfed Roberts y ffordd ddaeth swyddogion i'r casgliad bod angen codi'r nifer hwnnw o gartrefi.

Dywedodd y gallai'r sefyllfa "beryglu ein hiaith ni" yn ogystal â rhoi pwysau ar wasanaethau fel meddygfeydd.

'Hyrwyddo mewnfudo'

Soniodd nifer yn y digwyddiad yn Neuadd Goffa'r dref am y diffyg tai fforddiadwy neu gymdeithasol.

Dywedodd y cynghorydd sir Gareth Thomas, sydd ar gabinet Cyngor Gwynedd, bod "97 o bobl... ar y rhestr" am dai cymdeithasol ym Mhenrhyndeudraeth, ac mai'r her nawr yw sicrhau bod y tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y math yma o dai.

Ond ychwanegodd bod llawer o'r stoc tai yn y dref yn hen a bod nifer o bobl leol yn byw mewn tai o safon isel.

Ond yn ôl Heledd Williams o Gymdeithas yr Iaith mae'r cynllun datblygu yn y gogledd-orllewin yn "hyrwyddo mewnfudo" a newidiadau fyddai'n "trawsnewid" cymunedau.

Mynegodd nifer yn y cyfarfod bryderon am draffig, pwysau ar yr ysgol leol ynghyd â gwaith i bobl sy'n symud i'r ardal.

Cytunodd y trefnwyr y byddan nhw'n galw cyfarfod arall yn yr wythnosau nesaf.

Pynciau Cysylltiedig