Uwch Gynghrair: Abertawe 1-0 Burnley

Ki Sung-yueng Image copyright Reuters
Image caption Ki Sung-yueng sgoriodd y gôl fuddugol

Fe wnaeth ergyd hwyr yn y gêm gan Ki Sung-yueng sicrhau buddugoliaeth bwysig i Abertawe yn erbyn Burnley gan olygu fod tîm Carlos Carvalhal yn dringo i'r 15eg safle yn yr Uwch Gynghrair.

Roedd y ddau dîm ymysg y pedwar sydd wedi sgorio'r nifer lleiaf o goliau yn y gynghrair y tymor hwn, ac felly doedd hi ddim yn syndod mai ychydig iawn o gyfleoedd gafodd eu creu.

Daeth yr ergyd gyntaf ar y gôl yn yr ail hanner, gyda Lukasz Fabianski yn arbed ymdrech Johann Berg Gudmundsson.

Er i Abertawe fwynhau'r rhan fwyaf o'r meddiant, roedd Burnley yn edrych yn fwy tebygol o sgorio.

Fe newidiodd pethau pan ddaeth Andrew Ayew i'r cae fel eilydd, gyda'r Elyrch yn gorffen yn gryf.

Daeth ei frawd Jordan Ayew yn agos, gyda Nick Pope yn arbed cyn i ergyd isel Ki daro cefn y rhwyd o ymyl y blwch cosbi.

Pynciau Cysylltiedig