Chwe Gwlad Merched: Lloegr 52-0 Cymru

Abby Dow yn sgorio i Loegr Image copyright Rex Features

Cafodd merched Cymru grasfa yn Stoop Twickenham, gyda'r tîm cartref yn sgorio wyth cais.

Fe wnaeth pencampwyr presennol y Chwe Gwlad sgorio pedwar cais yn yr hanner cyntaf.

Croesodd Poppy Cleall, Abby Dow, Leanne Riley ac Ellie Kildunne i roi Lloegr 26-0 ar y blaen.

Llwyddodd Katy Daley-Mclean i drosi tri, a dau arall wedi'r egwyl pan groesodd Marlie Packer a Rachael Burford y llinell.

Yna daeth ail gais i Cleall, cyn i Kildunne sgorio'r cais olaf yn hwyr yn y gêm.

Pynciau Cysylltiedig