Halfpenny allan o dîm Cymru

Trydydd cais Leigh Halfpenny Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Leigh Halfpenny arwain y perfformiad yn erbyn yr Alban gyda dau gais, pedwar trosiad a dwy gic gosb

Gyda llai na dwy awr cyn iddynt herio Lloegr yn Twickenham daeth cadarnhad na fydd y Leigh Halfpenny yn chwarae i Gymru.

Fe fethodd y cefnwr ymarfer ddoe oherwydd anaf.

Gareth Anscombe o'r Gleision fydd yn cymryd ei le.

Fe wnaeth Halfpenny sgorio dau gais, pedwar trosiad a dwy gic gosb yn y fuddugoliaeth 34-7 yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd dydd Sadwrn diwethaf.

Owen Watkin sydd wedi ei enwi ar y fainc yn lle Ansombe.

Pynciau Cysylltiedig