Marathon
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Caryl Mair Jones: Ffermwr, cyfrifydd a rhedwr

12 Chwefror 2018 Diweddarwyd 21:05 GMT

Rhwng godro ar y fferm deuluol ben bore, a hyfforddi pan nad yw'n gweithio fel cyfrifydd, mae pob diwrnod yn dipyn o farathon i'r athletwr o Hendy Gwyn ar Daf, Caryl Mair Jones.

Braint, meddai, yw cael ei dewis i gynrychioli Cymru yn ras y marathon yng Ngemau'r Gymanwlad yn Awstralia.

Fe fyddai cipio medal ar ddiwrnod olaf y cystadlu yn gwireddu breuddwyd - ac yn anrheg delfrydol i'r ferch sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 31 oed ar ddiwrnod seremoni agoriadol y gemau.