Mam yn sefydlog wedi gwrthdrawiad Gellilydan laddodd dwy

Mili Wyn Ginniver ac Anna Williams
Image caption Bu farw Mili Wyn Ginniver ac Anna Williams yn y gwrthdrawiad ger Gellilydan

Mae gyrrwr car oedd mewn gwrthdrawiad laddodd ei merch a'i chwaer yn parhau yn yr ysbyty, fis wedi'r digwyddiad.

Bu farw Mili Wyn Ginniver, oedd yn chwe mis oed ac o Flaenau Ffestiniog, ac Anna Williams, 22 ac o Benrhyndeudraeth, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A487 yng Ngellilydan ar 11 Ionawr.

Mae mam Mili, Sioned Williams yn parhau mewn cyflwr sefydlog ar ôl cael ei hedfan i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad.

Fe wnaeth y gymuned leol gasglu miloedd o bunnau i gefnogi'r teulu wedi'r digwyddiad.

Y disgwyl oedd i'r arian gael ei ddefnyddio i dalu am gostau teithio i Ysbyty Brenhinol Stoke, lle mae Ms Williams yn cael ei thrin.

Straeon perthnasol